Cwis golwg360: Allwch chi wneud yn well na’r newyddiadurwyr, y colofnwyr a’r selebs?

Rhowch gynnig arni

Ar ddiwrnod golwg360 ar Faes Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd ym Moduan ddydd Iau (Awst 10), fe wnaethon ni groesawu ambell seleb Cymraeg fel gwesteion arbennig ar gyfer ein cwis newyddion.

Fe fu’r dirprwy olygydd Cadi Dafydd, y gohebydd celfyddydau Non Tudur a’r colofnydd gwleidyddol Huw Prys Jones yn cystadlu yn erbyn ein colofnydd Sara Louise Wheeler, Dewi Pws a Bethan Gwanas.

Y newyddiadurwr a chyflwynydd Aled Hughes oedd yn cadw trefn ar y timau, gan holi cwestiynau newyddion, chwaraeon a chelfyddydau gafodd eu gosod gan Phyl Griffiths a Geraint Roberts.

Diolch yn fawr iawn i bawb fu wrthi.

 

Dyma gyfle i chi, ddarllenwyr, roi cynnig ar rai o’r cwestiynau wynebodd ein timau…

 

 

Cwestiwn 1
Y Mwmbwls

Pa fath o anifail gafodd ei olchi i'r lan ar draeth yn Abertawe ddydd Llun?


Cwestiwn 2

Pa bedair tref glan môr yng Nghymru gafodd eu henwi fel y llefydd gorau i fyw ar restr ddiweddar y Sunday Times?


Cwestiwn 3

Pwy enillodd y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd?


Cwestiwn 4

Pwy gyfansoddodd Codiad Yr Ehedydd ac Ymdaith Gwirfoddolwyr Abermaw?


Cwestiwn 5

Enwch y gwesty yn Wrecsam lle sefydlwyd Cymdeithas Bêl-Droed Cymru


Cwestiwn 6

Pa Athro ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n gyn-gapten tîm pêl-droed merched Cymru?