Cwis y Flwyddyn golwg360: Rownd 3 – Rhyngwladol

Dros y dyddiau nesaf, bydd golwg360 yn cyhoeddi Cwis y Flwyddyn fesul rownd.

Bydd chwech rownd i gyd, ac mae’r drydedd rownd hon yn canolbwyntio ar straeon rhyngwladol.

Rhowch gynnig arni, ac os ydych chi’n teimlo’n ddigon dewr, rhowch wybod i ni sawl cwestiwn gawsoch chi’n gywir!

Cwestiwn 1
Baner yr Wcráin

Faint o flynyddoedd yn ôl, i 2023, ddigwyddodd yr Holodomor yn Wcrain?


Cwestiwn 2

Pa wlad oedd y gyntaf i lanio llong ofod ar begwn de’r lleuad ym mis Awst?


Cwestiwn 3
Randa Ghazy/Achub y Plant

Faint o blant gafodd eu heffeithio gan ddaeargrynfeydd yn Nhwrci a Syria ym mis Chwefror, yn ôl y Cenhedloedd Unedig?


Cwestiwn 4

Cyn 2023, faint o flynyddoedd aeth heibio ers i achos llys gyda rheithgor gael ei gynnal yn y Gaiman ym Mhatagonia?


Cwestiwn 5
Sian Lewis

I eglwys ym mha dalaith yn yr Unol Daleithiau y rhoddod yr Urdd ffenestr liw wedi ffrwydrad yn 1963?