Cwis y Flwyddyn golwg360: Rownd 6 – Gwleidyddiaeth

Dros y dyddiau nesaf, bydd golwg360 yn cyhoeddi Cwis y Flwyddyn fesul rownd.

Bydd chwech rownd i gyd, ac mae’r ail rownd hon yn canolbwyntio ar wleidyddiaeth.

Rhowch gynnig arni, ac os ydych chi’n teimlo’n ddigon dewr, rhowch wybod i ni sawl cwestiwn gawsoch chi’n gywir!

 

Cwestiwn 1

I’r 10,000 agosaf, faint o bobol lofnododd y ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud tro pedol ar y terfyn cyflymder 20m.y.a.?


Cwestiwn 2
Senedd San Steffan ac afon Tafwys - wedi eu goleuo fin nos

Pa Aelod Seneddol wnaeth osgoi cael ei chosbi am fynychu parti pen-blwydd yn San Steffan yn ystod cyfyngiadau Covid-19?


Cwestiwn 3

Yn ôl pôl piniwn newydd eleni, pa ganran o bobol yng Nghymru sy’n cefnogi annibyniaeth?


Cwestiwn 4

Ym mis Chwefror, cyhoeddodd Nicola Sturgeon, arweinydd yr SNP a Phrif Weinidog yr Alban, ei hymddiswyddiad. Ond ar ôl sawl blwyddyn wrth y llyw?


Cwestiwn 5
Plaid Cymru

“Celwyddgi na ddylai gael gwenwyno ein gwleidyddiaeth byth eto." Am bwy roedd Liz Saville Roberts yn sôn?