Cwis y Flwyddyn golwg360: Rownd 4 – Chwaraeon

Dros y dyddiau nesaf, bydd golwg360 yn cyhoeddi Cwis y Flwyddyn fesul rownd.

Bydd chwech rownd i gyd, ac mae’r bedwaredd rownd hon yn canolbwyntio ar chwaraeon.

Rhowch gynnig arni, ac os ydych chi’n teimlo’n ddigon dewr, rhowch wybod i ni sawl cwestiwn gawsoch chi’n gywir!

Cwestiwn 1

Pa seren bêl-droed, fu farw ym mis Hydref, chwaraeodd unwaith ar gae'r Vale?


Cwestiwn 2

Pa ganran o ddyfarnwyr yng Nghymru sy'n dweud eu bod nhw wedi cael eu camdrin yn gorfforol wrth ddyfarnu, yn ôl adroddiad gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru eleni?


Cwestiwn 3
De Affrica, Cwpan Rygbi'r Byd

Cafodd capten tîm rygbi De Affrica, ddaeth yn bencampwyr y byd eleni, ei ganmol am ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyfweliad ar S4C. Beth yw ei enw?


Cwestiwn 4
Criced CymruCriced Cymru

Pa gricedwr, sy'n chwarae i Siroedd Cenedlaethol Cymru ac sy'n Gymro Cymraeg, mae golwg360 wedi bod yn ei noddi eleni?


Cwestiwn 5
BBC Cymru

Pa ferch gafodd ei henwi'n Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru ar gyfer 2023?