Cwis y Flwyddyn golwg360: Rownd 5 – Celfyddydau

Dros y dyddiau nesaf, bydd golwg360 yn cyhoeddi Cwis y Flwyddyn fesul rownd.

Bydd chwech rownd i gyd, ac mae’r rownd hon yn canolbwyntio ar y celfyddydau.

Rhowch gynnig arni, ac os ydych chi’n teimlo’n ddigon dewr, rhowch wybod i ni sawl cwestiwn gawsoch chi’n gywir!

 

Cwestiwn 1

Sawl ffilm nodwedd y flwyddyn mae Sinema Cymru, sy’n gydweithrediad rhwng S4C a Cymru Greadigol gan Ffilm Cymru, eisiau eu rhyddhau bob blwyddyn?


Cwestiwn 2
CC0

‘Pridd’ gan ba awdur ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth ‘Llyfr y Flwyddyn’ eleni?


Cwestiwn 3

Pa gyfres Cymraeg gan S4C gafodd ei thrwyddedu gan Netflix ym mis Ebrill?


Cwestiwn 4

Roedd camp hanesyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni wrth i fardd y “dwbwl dwbwl” ennill y Gadair am y trydydd tro. Pwy oedd y bardd buddugol?


Cwestiwn 5

Dros y flwyddyn nesaf, bydd cronfa fideos Lŵp S4C a PYST yn ariannu ugain fideo cerddorol newydd, fel ffordd o roi cyfle i artistiaid a chyfarwyddwyr newydd greu eu fideo cyntaf i hyrwyddo traciau newydd. Fideo o’r gân ‘PELL’ gan ba artist sydd gyntaf yn yr ail rownd?