Dangosodd Dreigiau Casnewydd-gwent fod bywyd ar ôl Paul Turner wrth iddyn nhw faeddu Caeredin mewn gêm gyffrous ar Rodney Parade heddiw.

Roedd y ddau dîm yn chwarae eu gemau gyntaf dan hyfforddwyr newydd, ond roedd gan y Dreigiau llai o chwaraewyr yn y Chwe Gwlad na Chaeredin.

Sgoriodd Caeredin gais cynnar ar ôl cic glyfar gan Tim Vissar. Carlamodd yr asgellwr Lee Jones ar ôl y bêl a sgorio, cyn i Chris Paterson ychwanegu’r trosiad.

Sgoriodd y prop Phil Price gais yn y gornel i’r Dreigiau cyn i Paterson roi Caeredin 10-5 ar y blaen gyda chic gosb ar ôl 22 munud.

Daeth y Dreigiau’n ôl a sgorio tri chais, y cyntaf drwy Jason Tovey. Sgoriodd Lewis Evans ac yna Ashley Smith hefyd er mwyn eu rhoi nhw 22-10 ar y blaen ar hanner amser.

Fe aeth y rhanbarth o Gymru ymhellach ar y blaen gyda chic gosb gan Jason Tovey ar ôl 45 munud, a rhuthrodd Andrew Coombs o sgarmes i sgorio pumed cais y gêm.

Tarodd Caeredin yn ôl gyda chais gan Tim Vissar ar ôl sawl cymal yn agos at linell y Dreigiau.

Yn eiliadau olaf y gêm gorfododd Geoff Cross ei ffordd drosodd am drydydd cais Caeredin, ac fe giciodd Paterson y trosiad.

Ond roedd hi’n rhy hwyr iddyn nhw ddod yn ôl ac roedden nhw un pwynt yn brin o bwynt bonws hefyd.