Mae hyfforddwr y Crusaders, Iestyn Harries, wedi enwi carfan 19 dyn cyn eu gêm agoriadol yn y Super League.

Fe fydd y clwb Cymreig yn wynebu’r Salford City Reds ddydd Sul yn rhan o benwythnos Millennium Magic Stadiwm y Mileniwm.


Bathodyn y Crusaders
Mae Iestyn Harries wedi enwi’r garfan gryfa’ sydd ar gael iddo ar hyn o bryd. Mae’r capten Clinton Schifcofske a’r canolwyr Tony Martin a Vince Mellars yn dychwelyd ar ôl methu tair gêm gyfeillgar cyn dechrau’r tymor newydd.

Mae Gareth Thomas yn ffit eto ar ôl i anaf i’w werddyr ei atal rhag chwarae yn erbyn Leeds Rhinos bythefnos yn ôl.

Mae disgwyl i’r asgellwr o Gymru, Rhys Williams, sydd wedi ymuno gyda’r clwb  ar fenthyg o Warrington Wolves, chwarae ei gêm gyntaf i’r Crusaders dros y penwythnos.

Bydd y Crusaders yn dechrau’r tymor pedwar pwynt ar ei hol hi ar ôl mynd i ddwylo’r gweinyddwyr ar ôl i’r tymor ddod i ben y llynedd.

Absenoldebau

Ni fydd  Frank Winterstein a Rhys Hanbury ar gael oherwydd problemau gyda visas.

Fe fydd y Cymro Lloyd White allan am tua thair i bedair wythnos arall ar ôl cael llawdriniaeth i dynnu ei bendics.

Harries yn hapus

Mae Iestyn Harries wedi dweud ei fod yn  hapus gyda’r paratoadau a’i fod yn teimlo y bydd y chwaraewyr yn codi’u gêm wrth gymryd rhan yn yr achlysur arbennig yn Stadiwm y Mileniwm.

“Mae pethau wedi mynd yn dda iawn yr wythnos yma. Mae’r ymarferion wedi bod yn dda  ac mae pawb sydd ar gael yn gallu chwarae,” meddai Iestyn Harries.

“Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n dechrau’n dda. Nid yn unig am ein bod ni’n chwarae yn Stadiwm y Mileniwm, ond oherwydd ein bod ni’n dechrau’r tymor pedwar pwynt ar ei hol hi i bawb arall.

“Does dim nerfau gan fod gennym ni digon o chwaraewyr profiadol yn y garfan ac maen nhw’n gymorth i’r chwaraewyr ifanc. Mae’n achlysur y  mae pawb eisiau bod yn rhan ohono.”

Carfan y Crusaders

1. Clinton Schifcofske, 2. Gareth Thomas, 3. Tony Martin, 4. Vince Mellars, 5. Stuart Reardon, 6. Michael Witt, 7. Jarrod Sammut, 8. Ryan O’Hara, 9. Lincoln Withers, 10. Mark Bryant, 12. Jason Chan, 14. Adam Peek, 15. Jordan James, 16. Ben Flower, 20. Gil Dudson, 21. Paul Johnson, 22. Richard Moore 23. Peter Lupton, 26. Rhys Williams.