Toulon 17–16 Scarlets
Sgoriodd Toulon gais hwyr iawn i drechu’r Scarlets yn eu gêm Cwpan Her Ewrop yn y Stade Mayol nos Wener.
Roedd yr ymwelwyr o Gymru, a oedd wedi chwarae hanner y gêm gyda phedwar dyn ar ddeg, ar y blaen wrth i’r cloc gyrraedd wyth deg munud, ond Toulon a aeth â hi diolch i ddrama hwyr gyda’r cloc yn goch.
Aeth y tîm cartref ar y blaen gyda chais Louis Cordin yn y deg munud cyntaf, yr asgellwr yn sgorio wedi cic letraws gywir.
Roedd yr ymwelwyr o Gymru’n gyfartal wedi chwarter awr serch hynny gyda chais rhyng-gipiad Johnny McNicholl.
Felly yr arhosodd hi tan ddeg munud cyn yr egwyl pan y rhoddodd cic gosb Anthony Belleau y Ffrancwyr yn ôl ar y blaen.
Gorffennodd yr hanner cyntaf ar nodyn gwael i Fois y Sosban wrth i Tevita Ratuva dderbyn cerdyn coch, y clo o Fiji yn cael ei anfon o’r cae am hyrddiad peryglus yn ardal y dacl.
Er gwaethaf eu hanfantais, roedd y Scarlets yn gyfartal yn gynnar yn yr ail gyfnod diolch i gic gosb o droed y Sais profiadol yn safle’r maswr, Ryan Lamb.
Hwnnw a oedd cyfraniad olaf Lamb cyn i Dan Jones ddod i’r cae yn ei le ac fe roddodd yr eilydd y Scarlets ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm gyda chic gosb chwarter awr o’r diwedd.
Ychwanegodd Jones gôl adlam yn fuan wedi hynny ac roedd y pedwar dyn ar ddeg chwe phwynt ar y blaen gyda dim ond deg munud yn weddill.
Bu’n rhaid i’r Scarlets amddiffyn am eu bywydau yn y munudau olaf ac wedi i’r cloc droi’n goch hefyd. Ond roedd y pwysau’n ormod yn y diwedd ac fe ddaeth y cais annochel o sgarmes symudol, Liam Messam yn sgorio.
Trosiad i’w hennill hi i’r Ffrancwyr felly ac fe grafwyd hwnnw i mewn gyda chymorth y postyn gan Belleau, 17-16 y sgôr terfynol.
.
Toulon
Ceisiau: Louis Cordin 9’, Liam Messam 80’
Trosiadau: Anthony Belleau 10’, 80’
Cic Gosb: Anthony Belleau 31’
.
Scarlets
Cais: Johnny McNicholl 14’
Trosiad: Ryan Lamb 15’
Ciciau Cosb: Ryan Lamb 47’, Dan Jones 67’
Gôl Adlam: Dan Jones 69’
Cerdyn Coch: Tevita Ratuva 40’