Scarlets 20–17 Benetton

Roedd angen cic gosb hwyr Dan Jones ar y Scarlets wrth iddynt guro Benetton ar Barc y Scarlets yn y Guinness Pro14 nos Sadwrn.

Roedd y sgôr yn gyfartal wedi wyth deg munud ond Bois y Sosban a aeth â hi diolch i gic olaf y gêm gan y maswr cartref.

Aeth y Scarlets ar y blaen gyda chais Steff Evans yn y chweched munud, yr asgellwr yn manteisio ar ansicrwydd Jayden Hayward y tu ôl i’w linell gais i blymio ar y bêl am y gais gwych.

Ychwanegodd Dan Jones y trosiad cyn i Tommy Allen daro nôl gyda dwy gic gosb i Benetton, 7-6 y sgôr hanner ffordd trwy’r hanner.

Gorffennodd yr Eidalwyr yr hanner yn gryf hefyd wrth i bas hir ryddhau Angelo Esposito am eu cais cyntaf ar yr agsell dde cyn i Allen ychwanegu ei drydedd cic gosb, 10-14 y sgôr wrth droi.

Roedd Bois y Sosban yn ôl ar y blaen wedi chwarter awr o’r ail hanner wedi i’r eilydd brop, Rob Evans, hyrddio drosodd am ail gais ei dîm.

Rhoddodd trosiad Jones y tîm cartref dri phwynt ar y blaen ac felly yr arhosodd hi tan y munudau olaf.

Yna, roedd hi’n ymddangos bod Allen wedi cipio gêm gyfartal i Benetton gyda chic gosb funud o’r diwedd, ond roedd gan y Scarlets syniadau gwahanol.

Gyda’r cloc yn goch, fe anelodd Jones at y pyst a sicrhau’r fuddugoliaeth i’w dîm.

Mae’r fuddugoliaeth yn rhoi tîm Brad Mooar yn yr ail safle yn nhabl adran B y Pro14, dri phwynt y tu ôl i Munster ar y brig.

.

Scarlets

Ceisiau: Steff Evans 6’, Dan Evans 54’

Trosiadau: Dan Jones 8’, 55’

Ciciau Cosb: Dan Jones 29’, 80’

.

Benetton

Cais: Angelo Esposito 31’

Ciciau Cosb: Tommy Allan 10’, 17’, 38’, 79’