Mae Warren Gatland wedi dewis tîm cryf ar gyfer y gêm “gyfeillgar” yn Nhwickenham ddydd Sul, pan fydd Alun Wyn Jones yn ennill cap rhif 126 tros ei wlad.
Yn ymuno â’r clo profiadol yn y tîm mae 13 o’r chwaraewyr a sicrhaodd fuddugoliaeth i Gymru dros y Gwyddelod ar ddiwedd pencampwriaeth y Chwe Gwlad ym mis Mawrth.
Yn eu plith mae Liam Williams, George North, Jonathan Davies a Justin Tipuric.
Yr unig rai sydd ddim yn y tîm yw’r prop Nicky Smith a’r blaenasgwellwr Aaron Wainwright.
Paratoi ar gyfer Cwpan y Byd
“Mae’r garfan yn edrych ymlaen at y penwythnos ac i gael chwarae ar ôl cyfnod o ymarfer dwys,” meddai Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland.
“Mae’r gemau hyn yn bwysig iawn wrth ein harwain ni i Gwpan y Byd ac i sicrhau bod y chwaraewyr yn barod ar gyfer y bencampwriaeth, a bod y chwaraewyr yn cael cyfle i brofi eu hunain.”
Yn dilyn yr ymweliad â Twickenham y penwythnos hwn, bydd Cymru yn wynebu Lloegr eto yng Nghaerdydd ar Awst 17.
Yr wythnos wedyn ar Awst 31, bydd y crysau cochion yn herio Iwerddon yn Stadiwm y Principality, cyn teithio i Ddulyn ar Fedi 7.
Bydd Cymru yn dechrau eu hymgyrch Cwpan y Byd ar Fedi 23, gan wynebu Japan yn gyntaf, ac yna Awstralia, Fiji ac Uruguay yng ngemau’r grwpiau.