Ni fydd y chwaraewr ail reng, Cory Hill, yn gwisgo’r crys coch yn ystod gweddill pencampwriaeth y Chwe Gwlad, ar ôl iddo dderbyn anaf i’w bigwrn.

Daeth y cadarnhad gan Undeb Rygbi Cymru ddoe (dydd Mawrth, Chwefror 26) na fydd y blaenwr 27 oed yn bresennol ar y cae rygbi i wynebu’r Alban ar Fawrth 9 ac yna Iwerddon ar Fawrth 16.

Mae Adam Beard a Jake Ball ymhlith y ffefrynnau i gymryd ei le ochr yn ochr ag Alun Wyn Jones yn yr ail reng.

“Roedd Cory yn arbennig ddydd Sadwrn,” meddai hyfforddwr sgiliau Cymru, Neil Jenkins, wrth gyfeirio at y fuddugoliaeth dros Loegr.

“Fe wnaeth e sgorio cais hefyd ac mae’n chwaraewr da ac yn ddyn da i’w gael yn y garfan, felly yn sicr mae’n golled.

“Ond mae unrhyw golled yn gyfle i rywun arall, ac mae gennym ni chwaraewyr arbennig yn y safle honno.”