Saraseniaid 51–25 Gleision

Rhoddwyd cnoc fawr i obeithion Ewropeaidd y Gleision wrth iddynt gael cweir yn erbyn y Saraseniaid ar Barc Allianz brynhawn Sul.

Roedd yr ymwelwyr o Gymru ar y blaen ar yr egwyl ond sgoriodd y Saeson chwe chais heb ymateb wrth lwyr reoli’r ail hanner ac ennill y gêm yn gyfforddus yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop.

Hanner Cyntaf

Roedd hi’n ymddangos fod prynhawn hir o flaen y Gleision pan groesodd Richard Wigglesworth am gais cyntaf y tîm cartref wedi dim ond pedwar munud yn dilyn gwaith da’r canolwyr, Brad Barritt ac Alex Lozowski.

Ond cafwyd ymateb gwych gan yr ymwelwyr ac roeddynt ar y blaen erbyn hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf diolch i gais Blaine Scully a sgôr unigol wych Matthew Morgan, y cefnwr yn gwrthymosod o’i hanner ei hun gan guro pump amddiffynnwr ar ei ffordd.

Llwyddodd Gareth Anscombe gyda’r ddau drosiad yn ogystal â dwy gic gosb, 13-20 y sgôr ar yr egwyl a’r Gleision yn gwneud yn dda.

Ail Hanner

Roedd hi’n stori wahanol iawn wedi’r egwyl serch hynny. Sgoriodd Ben Earl ddau gais cynnar i’r Saraseniaid yn y pum munud cyntaf ar ôl dod i’r cae fel eilydd, yr ail o’r rheiny’n ryng-gipiad o bas Anscombe.

Yna, gydag Olly Robinson yn y gell gosb i’r Gleision fe ychwanegodd asgellwr yr Alban, Sean Maitland, ddau gais cyflym arall i’r tîm cartref tua hanner ffordd trwy’r ail hanner.

Rhoddodd hynny’r gêm allan o gyrraedd y Cymry cyn i sgôr yr un i Ben Spencer a Chris Judge droi’r fuddugoliaeth yn dipyn o grasfa.

Ond roedd hi’n gêm yr oedd y Gleision wedi cyfrannu dipyn tuag ati ac roedd cais cysur hwyr Robinson yn un haeddiannol, 51-25 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad yn gadael y Gleision yn drydydd yng ngrŵp 3 wedi tair gêm. Maent bellach ddeg pwynt y tu ôl i’r Saraseniaid ac mae’n debyg mai targedu’r ail safle yw eu gobaith gorau erbyn hyn.

.

Saraseniaid

Ceisiau: Richard Wigglesworth 4’, Ben Earl 44’, 47’, Sean Maitland 58’, 60’, Ben Spencer 69’, Christian Judge 71’

Trosiadau: Owen Farrell 4’, 48’, 61’, 69’, 72’

Ciciau Cosb: Owen Farrell 27’, 40’

.

Gleision

Ceisiau: Blaine Scully 11’, Matthew Morgan 19’, Olly Robinson 75’

Trosiadau: Gareth Asncombe 11’, 19’, 75’

Ciciau Cosb: Gareth Anscombe 24’, 32’

Cerdyn Melyn: Olly Robinson 57’