Mae disgwyl i nifer o chwaraewyr rygbi Lloegr wrthod gwisgo lasys amryliw ar gyfer eu gêm yn erbyn Awstralia yn Twickenham heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 24).

Diben y lasys yw dangos cefnogaeth i gyn-gapten rygbi Cymru, Gareth Thomas, oedd wedi dioddef ymosodiad homoffobig yn ddiweddar. Bydd chwaraewyr Cymru’n eu gwisgo i herio De Affrica.

Ond er bod Undeb Rygbi Lloegr yn cefnogi’r ymgyrch LGBT, bydd y chwaraewyr unigol yn cael penderfynu a fyddan nhw’n gwisgo’r lasys.

A bydd chwaraewyr Ffrainc yn eu gwisgo nhw wrth herio Ffiji, a’r Eidal a Seland Newydd yn eu gwisgo nhw wrth herio’i gilydd.

Cyhoeddodd Gareth Thomas yn 2009 ei fod yn hoyw.

Rhesymau

Dau o chwaraewyr Lloegr sydd wedi dewis peidio gwisgo’r lasys yw’r blaenasgellwr Sam Underhill a’r canolwr Ben Te’o.

“Fydda i ddim yn eu gwisgo nhw’n bersonol ac mae a wnelo hynny â thrwch y lasys,” meddai Sam Underhill.

“Maen nhw’n anghyfforddus iawn, iawn yn fy esgidiau. Ac maen nhw’n hir iawn.

“Fydda i ddim yn eu gwisgo nhw, ond dw i’n cefnogi’r gymuned LGBT yn llawn. Mae’n rhywbeth ry’n ni’n awyddus iawn, iawn i bobol wybod.”

Dywed na fyddai “unrhyw un yn dweud unrhyw beth” pe bai’r logo ar grysau yn unig, ond fod “newidiadau mawr i bethau fel eich lasys yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i chwaraewr”.

Ofergoel

Ofergoel yw rheswm y canolwr Ben Te’o dros beidio gwisgo’r lasys, meddai.

“Wna i adael yr esgidiau fel ag y maen nhw, gan fy mod i wedi’u cael nhw ar gyfer yr hydref.”

Gwrth-hoyw

Yn y cyfamser, mae disgwyl na fydd canolwr Awstralia, Israel Folau yn eu gwisgo, ac yntau’n Gristion.

Fis Ebrill, fe gafodd ei hun yng nghanol ffrae ar ôl dweud ar ei dudalen Twitter y gallai “hoywon fynd i uffern”, cyn amddiffyn ei sylwadau a bygwth ymddeol o’r byd rygbi yn sgil y ffrae.