Mae prop Lloegr, Joe Marler wedi trafod yr iselder a ddeilliodd o’r helynt yn sgil galw prop Cymru, Samson Lee yn “gypsy boy” yn ystod gêm rygbi rhwng y ddwy wlad.
Dywedodd mewn fideo yn tynnu sylw at iselder ei fod e wedi dod drwy’r profiad yn 2016 o ganlyniad i gymorth ei deulu a’i ffrindiau.
Mae’r chwaraewr 28 oed, sydd wedi ennill 59 o gapiau dros ei wlad, wedi cymryd rhan mewn fideo gyda’i glwb Harlequins sy’n rhan o ymgyrch Movember i dynnu sylw at Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd ar Fedi 10.
Wrth drafod y digwyddiad, dywedodd Joe Marler nad yw pethau “wastad wedi bod yn hawdd” ers y digwyddiad.
“Gall fy mhersonoliaeth fod yn allblyg iawn, hapus iawn, cymdeithasol, ond yna galla i chwalu o dan bwysau, mynd yn isel ac ymdroelli [allan o reolaeth].
“Dw i nawr mewn sefyllfa lle dw i’n rheoli fy ffordd o edrych ar bethau o ddydd i ddydd.
“Rhan fawr o hynny oedd gallu siarad â fy ffrindiau. Maen nhw wedi fy ngalluogi i fod mewn sefyllfa lle dwi’n gallu ymdopi â hynny.”
Ymddiheuro
Mae Joe Marler wedi ymddiheuro am sarhau Samson Lee, ond yn mynnu mai “tynnu coes” oedd e – eglurhad sydd wedi cael ei dderbyn gan y Cymro.
Cafodd ei wahardd rhag chwarae am bythefnos, a dirwy o £20,000 yn dilyn camau disgyblu gan banel World Rugby – er i banel tebyg Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ei gael yn ddieuog.
Yn dilyn y digwyddiad hwnnw, tynnodd e’n ôl o daith Lloegr i Awstralia am gicio bachwr Grenoble, Arnaud Heguy yn ei ben.
Ond fe gafodd ei ddewis gan y Llewod i fynd i Seland Newydd y llynedd, wrth iddo ddychwelyd i’w orau ar y cae.
Trafod
Ychwanegodd Joe Marler fod trafod yr helynt wedi ei helpu i ddod drwy’r cyfan.
“Treuliais i gryn dipyn o’r amser hwnnw [wedi’i wahardd] yn trafod pethau gyda fy ngwraig, yn ceisio dod drwyddi, ond hefyd fy ffrindiau agos o’m cwmpas, a’r problemau ro’n i’n eu cael ar y pryd, a sut ro’n i’n mynd i ddod drwyddi a symud ymlaen…. jyst gallu agor i fyny a chael y cyfan allan i’r bobol sydd agosaf ata’i.
“I fi, heb y bobol hynny ro’n i wedi gallu siarad â nhw, fyddwn i ddim wedi gallu dod drwy’r adegau anodd hynny yn fy ngyrfa a’m bywyd.”