Mae cyn-gapten Cymru, Sam Warburton wedi ymddeol o’r byd rygbi’n 29 oed.
Mewn datganiad ar y cyd â’r Gleision ac Undeb Rygbi Cymru, dywedodd fod ei “iechyd a lles yn flaenoriaeth” yn dilyn cyfres o anafiadau oedd wedi ei orfodi i gael llawdriniaeth ar ei wddf a’i benglin y llynedd.
Dyw’r blaenasgellwr, oedd yn gapten ar y Llewod yn Awstralia yn 2013 a Seland Newydd y llynedd, ddim wedi chwarae ers blwyddyn.
“Yn anffodus, yn dilyn cyfnod o orffwys ac adferiad, mae’r penderfyniad i ymddeol o’r byd rygbi wedi cael ei wneud gyda fy iechyd a lles yn flaenoriaeth, gan fod fy nghorff yn methu rhoi’r hyn ro’n i wedi gobeithio’i gael yn ôl wrth ddychwelyd i ymarfer.”
Gyrfa
Enillodd Sam Warburton 74 o gapiau dros Gymru, ac roedd yn gapten mewn 49 o gemau.
Trydedd gêm brawf cyfres y Llewod yn erbyn Seland Newydd yn Auckland fis Gorffennaf y llynedd oedd y tro olaf iddo gamu ar y cae.
Dechreuodd e ymarfer gyda’r Gleision dros yr haf ar ôl colli tymor cyfan yn dilyn taith y Llewod.
“Un o’r goreuon”
Mae prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Warren Gatland wedi talu teyrnged i Sam Warburton.
“Mae’n siom enfawr fod Sam wedi ymddeol o’r gêm,” meddai. “Mae e’n chwaraewr rygbi rhagorol ac mae e wedi dod â chymaint i’r gamp, ar y cae ac oddi arno.
“Mae ei arweiniad, ei agwedd a’i ymarweddiad, ynghyd â’i berfformiadau, wedi gosod Sam ymhlith y chwaraewyr gorau ac uchaf eu parch yn y byd.
“Mae e’n gorffen gyda record y dylai fod yn falch iawn ohoni, ac fe ddylai edrych yn ôl ar ei yrfa gyda balchder mawr.”