Gweilch 39–10 Connacht
Mae rhediad da diweddar y Gweilch yn parhau wedi buddugoliaeth bwynt bonws yn erbyn Connacht ar y Liberty yn y Guinness Pro14 nos Wener.
Croesodd y tîm cartref am bump cais mewn buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn y Gwyddelod.
Daeth cais y gêm i’r Gweilch wedi chwarter awr o chwarae er eu bod i lawr i bedwar dyn ar ddeg ar y pryd. Gyda Dan Evans yn y gell gosb, roedd y tîm cartref o dan bwysau ar eu llinell gais eu hunain cyn i Jeff Hassler ryng-gipio’r bêl a rhedeg hyd y cae i sgorio.
Fe wnaeth Connacht fanteisio ar y gwagle yn y diwedd wrth i Craig Donaldson daro nôl gyda chais eiliadau cyn i Evans ddychwelyd i’r cae.
Gwnaeth Evans yn iawn am ei gamgymeriad cynharach wrth groesi am ail gais y Gweilch cyn yr egwyl, yn taro’r lein ar ongl wych i gasglu pas Dan Biggar a sgorio.
Cic gosb i Connacht o droed Jack Carty a oedd pwyntiau olaf yr hanner ond y Gweilch a oedd ar y blaen o ugain pwynt i ddeg wrth droi.
Llwyr reolodd y Cymry’r ail hanner gyda Scott Otten yn hyrddio drosodd am y cais cyntaf wedi cic gosb gyflym Biggar.
Sicrhaodd Ashley Beck y pwynt bonws ar yr awr, yn ymestyn at y gwyngalch wedi symudiad taclus.
Daeth un cais arall i’r tîm cartref hefyd pan blymiodd Hanno Dirksen drosodd yn y gornel chwith i roi gwedd gyfforddus iawn ar y sgôr terfynol 39-10.
Mae’r canlyniad yn cadw’r Gweilch yn bumed yn nhabl cyngres A y Pro14 ond dim ond saith pwynt sydd bellach yn eu gwahanu hwy a’r Gleision yn y pedwerydd safle.
.
Gweilch
Ceisiau: Jeff Hassler 15’, Dan Evans 27’, Scott Otten 52’, Ashley Beck 61’, Hanno Dirksen 67’
Trosiadau: Dan Biggar 16’, 28’, 53’, 62’
Ciciau Cosb: Dan Biggar 3’, 10’
Cerdyn Melyn: Dan Evans 11’
.
Connacht
Cais: Craig Ronaldson 22’
Trosiad: Craig Ronaldson 23’
Cic Gosb: Jack Carty 40’