Mae anaf i’w ben-glin yn golygu na fydd Rhys Webb ar gael i Gymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, sy’n cychwyn wythnos i fory gyda gêm gartref yn erbyn yr Alban yng Nghaerdydd.

Ac oherwydd rheolau’r Undeb Rygbi, mae hi yn bosib na welwn ni’r mewnwr disglair mewn crys Cymru fyth eto.

Mae Rhys Webb wedi ennill 33 o gapiau tros ei wlad, a bydd yn ymuno â thîm Toulon ar ddiwedd y tymor ac yn chwarae ei rygbi yn Ffrainc.

Yn ôl rheolau Undeb Rygbi Cymru ni fydd yr un chwaraewr gyda llai na 60 o gapiau rhyngwladol yn cael chwarae i Gymru, os ydyn nhw yn chwarae i glwb y tu allan i’r wlad.

Bydd Rhys Webb yn cael profion ar y ben-glin “i weld beth sydd orau i’w wneud” yn ôl Undeb Rygbi Cymru.

Sawl seren glwyfus

Mae yn bosib y bydd yn rhaid i Warren Gatland wynebu her yr Alban heb naw o’i chwaraewyr profiadol.

Ni fydd Sam Warburton, Dan Lydiate na Jonathan Davies ar gael ar gyfer y Chwe Gwlad eleni.

Ac mae marc cwestiwn anferth tros y clo Jake Ball wedi iddo anafu ei ysgwydd.

Hefyd mae disgwyl i Taulupe Faletau a Dan Biggar fethu chwarae yn y tair gêm gyntaf oherwydd anafiadau.

Ac mae amheuon am ffitrwydd Rhys Priestland a Liam Williams.

Tomos Williams o ranbarth y Gleision sy’n cymryd lle Rhys Webb yn y garfan, a does ganddo’r un cap tros ei wlad.