Mae capten tîm rygbi Cymru, Dan Lydiate wedi cyfaddef fod ei dîm yn teimlo’r nerfau ar ddiwedd yr ornest yn erbyn Georgia yn Stadiwm Principality y prynhawn yma.
Roedd yn rhaid i Gymru amddiffyn yn gadarn gyda phedwar dyn ar ddeg yn niwedd y gêm i sicrhau’r fuddugoliaeth o 13-6, wrth i Georgia fynd am gêm gyfartal yn y cyfarfod cyntaf erioed rhwng y ddwy wlad.
Roedd y penderfyniad i roi cerdyn melyn i Tomas Francis yn golygu nad oedd modd cael sgrymiau cystadleuol.
Ond roedd cais Hallam Amos ac wyth pwynt oddi ar droed Rhys Priestland yn ddigon i osgoi embaras i Gymru, fydd yn eu hwynebu eto yng Nghwpan y Byd ymhen dwy flynedd.
‘Gêm o ddwy hanner’
Ar ddiwedd y gêm, dywedodd capten Cymru, Dan Lydiate wrth y BBC: “Roedd hi’n gêm o ddwy hanner. Yn yr ail hanner, roedd llawer o wallau a llawer o oedi.
“Roedden ni’n hapus i ennill, ond roedden ni’n nerfus tua’r diwedd.”
Bydd Cymru’n herio Seland Newydd ddydd Sadwrn nesaf.