Koji Taira o Japan
Doedd y sgôr terfynol ddim yn awgrymu hynny ond fe gafodd Ffrainc dipyn o fraw wrth i Japan ddod yn agos at eu maeddu nhw yng Nghwpan Rygbi’r Byd.

Enillodd Ffrainc 47-21 yn y pen draw, gan sgorio tri chais ym munudau olaf y gêm wrth i Japan redeg allan o stem.

Mae Ffrainc yn enwog am allu chwarae yn wych a’n warthus, ond ddim fel arfer o fewn yr un gêm.

Dechreuodd y tîm yn wych wrth i Julien Pierre sgorio cais cyntaf Ffrainc, ar ôl i Fabrice Estebanez a Thierry Dusautoir ddod o fewn trwch blewyn i groesi’r gwyngalch.

Yna sgoriodd Trinh-Duc ar ôl rhyngipio pêl gan faswr Japan, James Arlidge, ond fe wnaeth y gŵr ifanc yn iawn am hynny drwy sgorio 21 pwynt drwy giciau cosb ac un cais.

Ymosododd Japan yn ddi-baid gan gyrraedd 25-21 yn yr ail hanner, ac roedd Ffrainc ar y droed ôl a ddim yn gallu cael eu dwylo ar y bêl.

Fe drodd y llanw â 12 munud yn weddill pan ildiodd Japan cic gosb. Roedd fel petai’r gwynt wedi mynd o’u hwyliau nhw bryd hynny, ac fe sgoriodd Lionel Nallet, Pascal Pape a Morgan Parra gais yr un yn weddol ddiffwdan.

Bydd Ffrainc yn hapus â’r sgôr ond yn ymwybodol na fydd y timoedd gorau yn pylu fel y gwnaeth y ‘Cherry Blossoms’ ym munudau olaf y gêm.