Mathew Rees
Mae’n bur debygol na fydd Capten Cymru, Matthew Rees, yn cymryd rhan yng ngêm cyntaf Cymru yn erbyn Lloegr cyn Cwpan y Byd oherwydd anaf i’w wddf.

Sam Warburton, blaen asgellwr y Gleision, yw’r ffefryn i arwain Cymru yn y gêm, wedi iddo fod yn gapten yn erbyn y Barbariaid ddeufis yn ôl.

Rees, bachwr y Scarlets, fu’n gapten ar Gymru trwy gydol gemau rhyngwladol y tymor diwethaf, gan gynnwys pencampwriaeth Chwe Gwlad RBS.

Mae wedi bod yn dioddef o boen yn ei wddf yn yr wythnosau diwethaf, ac mae rheolwr y garfan, Warren Gatland wedi cyhoeddi y gall llawdriniaeth fod yn opsiwn i atgyweirio’r broblem yn yr hirdymor.

Ond mae Gatland yn gobeithio y bydd modd gohirio unrhyw lawdriniaeth sydd ei angen arno ei ohirio nes ar ôl ymgyrch Cwpan Byd Cymru Seland Newydd.

“Mae Matthew wedi cael problem gyda’i wddf ers rhai wythnosau,” meddai Gatland.

“Ma’n bosib y bydd angen llawdriniaeth, ond rydyn ni’n gobeithio na fydd rhaid gwneud hynny cyn Cwpan y Byd.

“Os na fydd pethau yn gwella, bydd rhaid iddo wneud rhywbeth amdano ar ôl Cwpan y Byd.”

Aeth ati i egluro gwraidd y broblem: “Mae yna wasgedd ar y nerfau sy’n achosi’r boen. Wrth iddo gysgu mae’n ei effeithio fwyaf. Ond rydym ni’n obeithiol y bydd y pigiadau rydym ni’n eu rhoi iddo yn helpu rywfaint. Gobeithio y bydd yn gwella yn ystod yr wythnos neu ddau nesaf.”

Ychwanegodd Gatland: “Yn ddelfrydol, mi fyddai’n well gen i petai yn gallu chwarae yn y gemau rhagbrofol, oherwydd dydw i ddim eisiau iddo fynd mewn i’r Cwpan Byd heb fod wedi chwarae digon.”

Bydd Cymru’n chwarae tair gêm baratoi ar gyfer y Cwpan Byd y mis yma; Lloegr yn Twickenham Ddydd Sadwrn, Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm ar Awst 13eg ac yna gorffen gyda’r Ariannin yng Nghaerdydd wythnos yn ddiweddarach.

Mae Gatland yn bwriadu cyhoeddi ei garfan derfynol ar gyfer Cwpan y Byd Seland Newydd ar Awst 22ain.

Bydd ymgyrch Cymru yn y bencampwriaeth yn cychwyn yn erbyn South Africa yn Wellington ar Fedi 11eg.