Fe fydd tîm rygbi’r gynghrair Awstralia’n perfformio rhyfelgri newydd yn ystod Cwpan y Byd i dynnu sylw at hanes a diwylliant yr Aborijini.
Yr hanerwr Johnathan Thurston fydd yn ei harwain cyn y gemau ac mae e wedi bod yn cynnal ymarferion ar drothwy’r gystadleuaeth, ac wedi ysgrifennu’r geiriau.
Bydd Awstralia’n herio Lloegr yn y gêm agoriadol ddydd Gwener.
Dyw union fanylion y rhyfelgri ddim wedi cael eu dateglu eto, ond mae disgwyl i’r tîm sefyll mewn siâp bŵmerang.
Syniad Mal Meninga, un o chwaraewyr gorau erioed Awstralia, oedd y rhyfelgri.
Hawliau
Mae ymgyrch ar droed i sicrhau hawliau dynol i’r Aborijini yn Awstralia drwy lobïo llywodraeth Awstralia.
Bydd y gêm ddydd Gwener yn cyd-daro â hanner canmlwyddiant y rhyfelgri wreiddiol yn Awstralia.
Dywedodd Mal Meninga ei bod yn “gydnabyddiaeth” o gyfraniad yr Aborijini i fywyd yn Awstralia.