Rob Howley (Llun: Cynulliad CCA2.0)
Mae prif hyfforddwr dros dro tîm rygbi Cymru, Rob Howley wedi cyhuddo Ffrainc o ddwyn anfri ar y gêm.
Daw ei sylwadau ar ôl i Gymru golli’r gêm drwy gais a ddaeth yn y 100fed munud ar ôl 20 munud dadleuol.
Roedd Cymru ar y blaen o 18-13 tan funud ola’r 80, ond megis dechrau roedd y cyffro go iawn.
Cafodd prop Cymru, Samson Lee ei anfon i’r cell cosb ar ôl 82 munud cyn i George North gyhuddo’r Ffrancwyr o’i frathu. Er i’r dyfarnwr droi at y fideo, doedd dim tystiolaeth gadarn i brofi’r honiad.
Ar ôl y gêm, dywedodd y prif hyfforddwr dros dro, Rob Howley fod “tystiolaeth” i brofi bod yr asgellwr wedi cael ei frathu.
Eilyddio
Ond y pwnc llosg dros y dyddiau nesaf fydd yr eilyddio a ddigwyddodd yn rheng flaen Ffrainc.
Fe gafodd Rabah Slimani, oedd wedi dod oddi ar y cae yn gynt yn y gêm, yr hawl i ddychwelyd i’r cae ar ôl i feddyg Ffrainc ddadlau bod angen asesiad i’r pen ar Uini Atonio – does dim hawl i chwaraewr ddychwelyd os yw e wedi gadael am resymau tactegol.
Ar ôl tipyn o drafod ar y mater, a chyfres o sgrymiau a gafodd eu dymchwel, fe lwyddodd Samson Lee i ddychwelyd i’r cae wyth munud cyn y diwedd.
Gyda 100 o funudau ar y cloc, croesodd Damien Chouly am gais i unioni’r sgôr cyn i Camille Lopez drosi i gipio’r fuddugoliaeth.
‘Gonestrwydd’
Yn y gynhadledd i’r wasg ar ôl y gêm, dywedodd Rob Howley fod y Ffrancwyr wedi “dwyn anfri” ar y gêm drwy ddiffyg gonestrwydd.
Yn ôl Rob Howley, ni ddylai’r meddyg fod wedi cael dod i’r cae i asesu Uini Atonio, gyda’r chwaraewr yn dweud ei fod e wedi anafu ei gefn.
Ond o fewn dim o dro, penderfynodd y meddyg fod angen asesiad i’r pen ar y chwaraewr, oedd yn golygu bod modd i Rabah Slimani ddychwelyd i’r cae.
Ychwanegodd Rob Howley: “Dw i wedi siarad â John Davies o bwyllgor y Chwe Gwlad, ac wedi bod i mewn i weld Wayne [Barnes, y dyfarnwr]. Fe wnawn ni edrych ar y deunydd fideo i gyd.
“O’r trydydd camera, mae’n gwbl amlwg beth ddigwyddodd. Daeth rhywun allan o’r ardal dechnegol a daeth y meddyg i’r cae. Mae hynny y tu allan i reolau’r gêm.
“Yna, gallwch chi glywed Wayne Barnes yn gofyn iddo fe a yw e’n iawn ac mae’n dweud “mae ‘nghefn i’n dost, dw i’n iawn” ac yna mae’r meddyg yn dod ymlaen a’r chwaraewr yn gadael.”
Twyllo?
Dywedodd Rob Howley nad oedd yn awgrymu bod Ffrainc yn twyllo, ond mae e wedi cwestiynu’r penderfyniad a gafodd ei wneud.
“Os ydych chi am ei alw’n [dwyllo], chi sydd i benderfynu hynny.
“Ry’n ni’n caru’n gêm ond roedd yr hyn welson ni yn y 10 munud olaf, dw i erioed wedi gweld hynny o’r blaen mewn gêm ryngwladol.
“Mae Wayne Barnes yn ddyfarnwr ac mae e’n cael gwybod fod angen asesiad i’r pen, ac mae e’n credu’r wybodaeth honno.
“Yn yr un modd, cawson ni gerdyn melyn, fe allen ni fod wedi gwneud union yr un peth â Tomas Francis. Ond wnaethon ni ddim, aeth e nôl ar y cae.”
Dywedodd fod y mater yn “destun pryder” iddo fe, a bod y canlyniad yn cael effaith ar restr detholion y byd ar gyfer Cwpan y Byd yn 2019.
Gwadu honiadau
Wrth ymateb i’r digwyddiadau, dywedodd prif hyfforddwr Ffrainc, Guy Noves: “Fe ddywedon nhw wrthyf ei fod e wedi anafu ac roedd rhaid i fi wneud fy nyletswydd.
“Hefyd, os edrychwch chi’n ofalus, gwnaeth Cymru eilyddio nifer o chwaraewyr yn ystod y gêm.”
Ychwanegodd y byddai’n dathlu’r canlyniad “os nad yw’r anaf yn peryglu ei fywyd”.