Glasgow 47–17 Dreigiau
Colli’n drwm fu hanes y Dreigiau am yr ail wythnos yn olynol yn y Guinness Pro12 wrth iddynt deithio i Scotstoun i herio Glasgow brynhawn Sadwrn.
Cafodd y Cymry gweir gartref gan Leinster yr wythnos ddiwethaf ac roedd colled drom arall yn eu haros yn yr Alban y penwythnos hwn.
Y Dreigiau a gafodd y gorau o’r chwarter cyntaf ac roeddynt yn haeddu bod dri phwynt ar y blaen diolch i gic gosb Angus O’Brien.
Ymestynnodd yr ymwelwyr o Gymru eu mantais yn fuan wedyn pan ymestynnodd Rynard Landman at y llinell gais, a chyrraedd yn ôl y dyfarnwr fideo, 0-10 y sgôr wedi trosiad O’Brien.
Tarodd Glasgow nôl yn gryf serch hynny gyda dau gais gan Nick Grigg cyn yr egwyl. Tarodd y canolwr y llinell amddiffynnol yn gryf i groesi am ei gyntaf cyn curo sawl tacl wrth groesi amei ail o bellter.
Ychwanegodd Peer Horne y ddau drosiad ac roedd yr Albanwyr bedwar pwynt ar y blaen wrth droi.
Dechreuodd yr ail hanner fel y gorffennodd y cyntaf, gydag un o olwyr Glasgow yn rhwygo trwy ganol amddiffyn y Dreigiau i groesi o dan y pyst, Rory Hughes y sgoriwr ytro hwn.
Roedd y pwynt bonws yn ddiogel i Glasgow yn fuan wedyn wrth i Ratu Tagive gasglu cic letraws gywir Horne i groesi yn y gornel.
Roedd Glasgow yn rhedeg y bêl o bob man erbyn hyn a doedd fawr o syndod gweld Lee Jones, Mark Bennett a Horne yn croesi am dri chais arall wrth i’r tîm cartref droi’r fuddugoliaeth yn un swmpus er gwaethaf cais hwyr Tyler Morgan i’r ymwelwyr.
Mae’r canlyniad yn gadael y Dreigiau’n ddegfed yn nhabl y Pro12.
.
Glasgow
Ceisiau: Nick Grigg 29’ 37’, Rory Hughes 43’, Ratu Tagive 50’, Lee Jones 58’, Mark Bennett 67’, Peter Horne 75’
Trosiadau: Peter Horne 30’, 38’, 43’, 52’, 67’, 76’
.
Dreigiau
Ceisiau: Rynard Landman 23’, Tyler Morgan 80′
Trosiadau: Angus O’Brien 24’, dorian Jones 80′
Cic Gosb: Angus O’Brien 15’