Bydd seremoni yn cael ei chynnal heddiw cyn gêm derfynol cwpan rygbi rhyng-golegol, er mwyn cofio’r fyfyrwraig Elli Norkett a fu farw’r wythnos ddiwethaf.

Cyn y gêm rhwng Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Loughborough ym Mharc yr Arfau Caerdydd, bydd crys rygbi Elli Norkett a rhosynnau yn cael eu gosod yng nghanol y cae, a bydd munud o gymeradwyo.

Cafodd Elli Norkett o Landarcy ger Castell-Nedd ei lladd ddydd Sadwrn diwethaf yn dilyn gwrthdrawiad car rhwng Banwen a Glyn-Nedd.

Roedd hi’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, yn chwarae rygbi i dîm rygbi merched Cymru a hefyd yn aelod o garfan saith bob ochr Cymru a Phrydain.

Bydd gêm rygbi merched Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Loughborough yn cael ei chynnal am saith heno ac mae disgwyl y bydd tua 1,500 yn mynychu.