Yr Alban 29–13 Cymru
Mae gobeithion Cymru o ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad drosodd wedi iddynt golli yn erbyn yr Alban ym Murrayfield brynhawn Sadwrn.
Roedd y Cochion ar y blaen ar yr egwyl ond sgoriodd yr Albanwyr ugain pwynt heb ymateb i ennill y gêm yn gymharol gyfforddus yn yr ail hanner.
Hanner Cyntaf
Ciciodd Finn Russell yr Albanwyr dri phywnt ar y blaen wedi chwe munud yn dilyn dechrau da gan y tîm cartref.
Roedd Cymru’n gyfartal chwe munud yn ddiweddarach diolch i gic gosb o droed Leigh Halfpenny.
Aeth Cymru ar y blaen ddeg munud wedi hynny gyda chais cyntaf y gêm, Liam Williams yn croesi yn y gornel chwith wedi meddwl chwim Rhys Webb yn cymryd cic gosb gyflym. Trosodd Halfpenny o’r ystlys i roi ei dîm saith pwynt ar y blaen.
Bu bron i Webb a Williams gyfuno am gais arall yn fuan wedyn ond gwelodd y dyfarnwr fideo drosedd gan y mewnwr wrth i’r symudiad ddatblygu.
Cyfnewidiodd Russell a Halfpenny gic gosb yr un wedi hynny cyn i’r Alban orffen yr hanner yn gryf. Gwnaeth amddiffyn Cymru’n dda i beidio ag ildio cais ond fe wnaeth Russell gau’r bwlch i bedwar pwynt gyda chic olaf y deugain munud agoriadol, 9-13 y sgôr wrth droi.
Ail Hanner
Dechreuodd yr ail hanner fel y gorffennodd y cyntaf, gyda’r Alban yn pwyso. Arweiniodd y pwysau at gais y tro hwn wrth i Tommy Seymour groesi yn y gornel dde wedi dwylo da Stuart Hogg a Tim Visser.
Llwyddodd Russell gyda’r trosiad cyn ychwanegu cic gosb ddeg munud yn ddiweddarach i roi chwe phwynt o fantais i’r tîm cartref gydag ychydig dros chwarter y gêm yn weddill.
Roedd angen tacl dda gan Visser i atal Webb rhag sgorio toc cyn yr awr ac fe greodd argraff yn y pen arall ddeg munud yn ddiweddarach.
Manteisiodd yr asgellwr mawr ar ddwylo cyflym gan weddill yr olwyr i groesi am ail gais ei dîm cyn i Russell drosi i ymestyn y fantais i dri phwynt ar ddeg.
Rhoddodd tri phwynt arall o droed Russell dair sgôr rhwng y ddau dîm gydag wyth munud yn weddill ac roedd y gêm a’r Bencampwriaeth allan o afael Cymru.
Mae’r canlyniad yn gadael Cymru’n bedwerydd yn nhabl Pencampwriaeth y Chwe Gwlad gyda dim ond un budduoliaeth o’u tair gêm gyntaf.
.
Yr Alban
Ceisiau: Tommy Seymour 44’, Tim Visser 67’
Trosiadau: Finn Russell 45’, 68’
Ciciau Cosb: Finn Russell 6’, 30’, 40’, 55′, 73’
.
Cymru
Cais: Liam Williams 23’
Trosiad: Leigh Halfpenny 25’
Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 12’, 34’