Ken Owens
Mae bachwr Cymru, Ken Owens, wedi addo y bydd y tim rygbi yn ymateb yn bositif i’r golled 8-32 yn erbyn Awstralia yng ngêm brawf gynta’r hydref ddoe.

Er bod dynion Rob Howley yn siomedig ac yn rhwystredig gyda’r perfformiad a’r canlyniad yn Stadiwm y Mileniwm, mae’r gemau sydd eto i ddod yn erbyn Ariannin, Japan a De Affrica yn rhoi cyfle iddyn nhw godi’r ysbryd a gwneud argraff go iawn.

“Mae’n hollol bosib dod yn ôl o hyn,” meddai Ken Owens. “Mae’n rhaid i ni bigo’n hunain lan yn ystod yr wythnos hon. Does dim llawer o amser, ac mae’n rhaid ymateb yn gyflym.

“Mae’r Ariannin yn cael cyfnod da ar hyn o bryd, maen nhw wedi curo Japan ac wedi cael Pencampwriaeth dda eto eleni, ac fe fyddan nhw’n sicr yn dod i Gaerdydd eisiau ennill… felly mae’n rhaid i ni droi lan ar y dydd a rhoi momentwm yn ein gêm, a deifro.”

Yn ôl Ken Owens, fe fydd yn rhaid i Gymru fod yn wyliadwrus o gêm gyflym yr Ariannin, a’r modd y maen nhw’n gwybod yn union beth maen nhw’n ei wneud yn y darnau gosod a’u sgrymiau.

“Maen nhw’n ail-gylchu’r bêl yn arbennig o dda,” meddai, “a mae gyda nhw dipyn o driciau maen nhw’n eu chwarae. Maen nhw’n ceisio chwarae gêm gyflym, felly bydd angen i ni wylio mas am hynny.”