Dreigiau 11–6 Zebre
Cael a chael oedd hi ond cafodd y Dreigiau eu buddugoliaeth gyntaf o’r tymor yn y Guinness Pro12 wrth i Zebre ymweld â Rodney Parade nos Wener.
Profodd cais cynnar yr asgellwr, Pat Howard, i fod yn ddigon i’r Dreigiau yn y diwedd mewn gêm agos yn erbyn yr Eidalwyr a gafodd gweir gan y Gweilch y penwythnos diwethaf.
Ciciodd Carlo Canna yr ymwelwyr dri phwynt ar y blaen wedi naw munud cyn i Howard groesi am unig gais y gêm wedi ychydig dros chwarter awr o chwarae.
Methodd Nick Macleod ag ychwanegu’r trosiad ond ymestynnodd y maswr cartref y fantais i wyth pwynt gyda dwy gic gosb.
Caeodd Canna’r bwlch hwnnw cyn yr egwyl serch hynny gyda’i ail gic lwyddiannus ef.
Y dyfarnwr oedd y dyn amlycaf ar y cae yn yr ail gyfnod, yn mynd i’w boced i roi cardiau melyn i brop y Dreigiu, Brok Harris, yn ogystal â dau o’r ymwelwyr, Guillermo Roan a Andrea De Marchi.
Er gwaethaf y lle ychwanegol ar y cae, methodd y naill dîm na’r llall ag ychwanegu at y sgôr wrth i’r Dreigiau ddal gafael ar fuddugoliaeth fain a Zebre fodloni ar bwynt bonws.
Bydd yn rhaid i’r Dreigiau fod dipyn gwell wrth groesawu Munster i Rodney Parade yr wythnos nesaf.
.
Dreigiau
Ceisiau: Pat Howard 17’
Ciciau Cosb: Nick Macleod 29’, 35’
Cerdyn Melyn: Brok Harris 61’
.
Zebre
Ciciau Cosb: Carlo Canna 9’, 39’
Cardiau Melyn: Guillermo Roan 61’, Andrea De Marchi 68’