Mae Gleision Caerdydd wedi cyhoeddi y bydd Rhys Patchell yn gadael y rhanbarth ar ddiwedd y tymor.

Mae’r Gleision wedi cadarnhau y bydd Rhys Patchell yn gadael y rhanbarth ar ddiwedd y tymor.

Dywedodd y prif hyfforddwr Danny Wilson ei fod wedi gwrthod y cynnig o gytundeb newydd gyda’r clwb.

Fe ddywedodd yr hyfforddwr, Danny Wilson fod y clwb “yn siomedig fod Rhys Patchell wedi gwrthod cynnig cytundeb gan Gleision Caerdydd, ac y bydd yn symud ’mlaen ddiwedd y tymor”.

“Mae cystadleuaeth gref i wisgo’r crys rhif 10 yn y rhanbarth, ac mae’n drueni na fydd Rhys yn rhan o’r ymgyrch o ddiwedd y tymor.

Ychwanegodd: “Ry’n ni eisiau chwaraewyr sydd eisiau bod yma ac yn barod i frwydro am le yn y tîm,” meddai.