Caeredin 32–13 Dreigiau Casnewydd Gwent
Colli fu hanes y Dreigiau yn erbyn Caeredin ym Murrayfield nos Wener, wrth iddynt chwarae rhan helaeth o’r ail hanner heb bymtheg dyn.
Anfonwyd pedwar o chwaraewyr y Dreigiau i’r gell gosb i gyd, gan eu gadael gyda dim ond deuddeg dyn ar y cae am ychydig eiliadau hanner ffordd trwy’r ail hanner. Manteisiodd yr Albanwyr yn llawn gan sicrhau buddugoliaeth bwynt bonws gyda phedwar cais.
Llwyddodd Dorian Jones a Sam Hidalgo-Clyne gyda dwy gic gosb yr un yn yr hanner cyntaf a chais y prop cartref, WP Nel, oedd yr unig beth yn gwahanu’r ddau dîm ar yr egwyl.
Daeth trobwynt y gêm yn gynnar yn yr ail hanner pan anfonwyd Boris Stankovich i’r gell gosb gyda’r sgrym yn gwegian.
Dilynodd cardiau melyn hallt iawn i Phil Price a Dorian Jones ac un fymryn mwy teg i Nic Cudd gan adael y Cymry dan anfantais am ran helaeth o’r hanner.
Manteisiodd Caeredin gyda cheisiau i Alisdair Dickinson, Tom Brown a Matt Scott ac un chais cysur hwyr iawn i Cudd, 32-13 y sgôr terfynol.
Mae’r canlyniad yn gadael y Dreigiau yn ddegfed yn nhabl y Guinness Pro12.
.
Caeredin
Ceisiau: WP Nel 18’, Alisdair Dickinson 59’, Tom Brown 72’, Matt Scott 76’
Trosiadau: Sam Hidalgo-Clyne 19’, 60’, Blair Kinghorn 77’
Ciciau Cosb: Sam Hidalgo-Clyne 3’, 27’
.
Dreigiau
Cais: Nic Cudd 80’
Trosiad: Dorian Jones 80
Ciciau Cosb: Dorian Jones 15’, 34’
Cardiau Melyn: Boris Stankovich 47’, Phil Price 53’, Dorian Jones 59’, Nic Cudd 70’