Scarlets 25–22 Munster

Mae Bois y Sosban yn aros ar frig y Guinness Pro12 ar ôl trechu Muntser mewn gêm agos ar Barc y Scarlets nos Wener.

Steven Shingler enillodd hi gyda chic olaf y gêm ac mae’r Scarlets bellach wedi ennill pump allan o bump ar ddechrau’r tymor.

Hanner Cyntaf

Er i gic gosb gynnar Ian Keatley roi Munster ar y blaen, y Scarlets gafodd y gorau o’r chwarter cyntaf a bu bron iddynt goroni’r cyfan gyda chais gwych. Bylchodd DTH van der Merwer o hanner hei hun ac er i’r gefnogaeth gyrraedd mewn pryd methodd John Barclay gadw ei afael ar y bêl.

Munster yn hytrach a gafodd y cais cyntaf, a chais da oedd o hefyd. Ciciodd y cefnwr, Andrew Conway, y bêl yr holl ffordd o’i linell 22 medr ei hun cyn tirio’r bêl (yn ôl y dyfarnwr teledu), 0-10 wedi trosiad Keatley.

Ychwanegodd maswr Munster un gic gosb arall cyn yr egwyl ond llwyddodd Shingler gyda dwy i’r Scarlets wrth i’r bwlch gau i saith pwynt.  

Ail Hanner

Chwaraeodd y Scarlets yn dda yn hanner cyntaf yr ail hanner a rhoddodd dau gais hwy’n haeddiannol ar y blaen.

Daeth y cyntaf i van der Merwe yn y gornel chwith yn dilyn bylchiad gwreiddiol yr eilydd hanner amser, Tom Williams.

Williams ei hun gafodd yr ail, yr asgellwr yn gwneud yn dda i dirio’r bêl yn dilyn cic daclus Regan King.

Wedi bod yn ei chanol hi am chwarter awr, fe anfonwyd Williams i’r gell gosb wedi hynny, yn dilyn cerdyn melyn dadleuol am dacl uchel.

Roedd y sgôr yn gyfartal pan ddigwyddodd hynny ond rhoddodd gôl adlam Keatley y Gwyddelod yn ôl yr y blaen.

Unionodd Shingler bethau i’r Scarlets cyn i’r ddau faswr gyfnewid ciciau eto, 22 bwynt yr un wrth i’r cloc droi’n goch.

Daeth un cyfle arall i’r Scarlets serch hynny a llwyddodd Shingler i drosi o bellter i ennill y gêm i’w dîm gyda chic olaf y gêm.

.

Scarlets

Ceisiau: DTH van der Merwe 42’, Tom Williams 54’

Ciciau Cosb: Steven Shingler 28’, 40’, 60’, 77’, 80’

Cerdyn Melyn: Tom Williams 56’

.

Munster

Cais: Andrew Conway 26’

Trosiad: Ian Keatley 27’

Ciciau Cosb: Ian Keatley 6’, 30’, 73’

Gôl Adlam: Ian Keatley 58’