Asgellwr Pontypridd, Alex Webber oedd y chwaraewr cyntaf i sgorio cais gwerth chwe phwynt yn hemisffer y Gogledd ar y diwrnod cyntaf y daeth y rheol newydd i rym yn Uwch Gynghrair y Principality heddiw.

Roedd Pontypridd yn fuddugol o 68-32 yn eu gêm agoriadol ym Mharc y Scarlets y prynhawn yma.

Daeth y cais cyntaf ym munudau agoriadol yr ornest.

Mae’r rheol newydd yn un o nifer sy’n cael eu treialu yn y gynghrair y tymor hwn.

O dan y rheolau newydd, fe fydd ciciau cosb a chiciau adlam yn werth dau bwynt yr un, tra bydd wyth pwynt am gais cosb heb fod angen trosi.

Nod y rheolau newydd yw creu gemau mwy agored ac ymosodol a chadw’r bêl ar y cae gyhyd â phosib.

Y rheolau eraill sy’n cael eu cyflwyno’r tymor hwn yw:

• Rhaid bod wyth chwaraewr mewn sgrym lle nad oes cystadleuaeth am y bêl

• Os bydd marc yn cael ei alw neu os bydd cic gosb neu gic rydd yn cael eu rhoi gan y dyfarnwr ar ôl 40 munud, fe fydd y chwarae’n parhau ac fe fydd modd cymryd leiniau pe bai’r bêl yn cael ei chicio i’r ystlys oddi ar gic gosb.

Fe fydd cyfres o gyfarfodydd yn cael eu trefnu i drafod y rheolau newydd a’u heffaith ar y gynghrair.

Dywedodd Pennaeth Rygbi Undeb Rygbi Cymru, Josh Lewsey: “Dw i wrth fy modd fod Undeb Rygbi Cymru yn flaengar yn y gêm yn fyd-eang o ran treialu’r rheolau newydd hyn.

“Bydd hyn yn denu sylw o’r tu allan a’r tu fewn i Gymru i Uwch Gynghrair y Principality a gemau cynghrair dan 18 Undeb Rygbi Cymru nos Fercher.”

Ychwanegodd rheolwr y dyfarnwyr, Nigel Whitehouse: “Fe fyddwn ni’n cydweithio’n agos yn y cyfnod treialu hwn er mwyn asesu effaith a chynnydd y newidiadau.”

Dywedodd Golygydd Chwaraeon S4C, Sue Butler ei bod yn “fraint cael bod yn rhan o’r gêm hanesyddol hon”.

1992 oedd y tro diwethaf i reolau newydd gael eu cyflwyno, wrth i’r pwyntiau ar gyfer cais gynyddu i bump yn lle pedwar.