Matthew Rees
Mae Gleision Caerdydd wedi cadarnhau fod y bachwr Matthew Rees wedi ailymuno â’r rhanbarth, wythnosau yn unig ers iddyn nhw adael iddo fynd.
Fe gyhoeddodd y rhanbarth ar ddiwedd y tymor diwethaf na fyddai cytundeb Rees yn cael ei adnewyddu, ond ar ôl tro pedol fe fydd y blaenwr nawr yn chwarae iddyn nhw am o leiaf blwyddyn arall.
Mae’r Gleision hefyd wedi ailarwyddo’r clo James Down, a chwaraeodd i’r tîm 63 o weithiau rhwng 2007 a 2014 ond a dreuliodd tymor diwethaf gyda Chymry Llundain.
Ailymuno â Danny Wilson
Fe enillodd Matthew Rees 60 cap dros Gymru yn ystod ei yrfa yn ogystal â chwarae dros y Llewod, ac fe gyfaddefodd prif hyfforddwr newydd y Gleision Danny Wilson ei fod yn awyddus i gydweithio â’r bachwr 34 oed eto.
“Dw i’n amlwg yn nabod Matthew yn dda iawn o’n cyfnod ni gyda’n gilydd yn y Scarlets ac mae gennym ni berthynas dda felly dw i’n falch iawn o’i arwyddo,” meddai’r hyfforddwr.
“Mae e’n dod ag arweiniad a phrofiad helaeth i’r garfan. Bydd e hefyd yn gweithio’n agos gyda’n bachwyr ifanc i helpu nhw i ddatblygu fel chwaraewyr.”
Yn ôl Danny Wilson, fe fydd James Down hefyd yn dychwelyd i Gaerdydd yn chwaraewr gwell.
“Roedd tipyn o ddiddordeb yn James o glybiau yn Uwch Gynghrair Aviva a Top 14 Ffrainc. Ond mae e’n fachgen lleol sydd yn frwdfrydig am chwarae ei rygbi dros y rhanbarth felly rydyn ni wrth ein bodd ei fod e’n dod nôl gartref.”