Iwerddon yn Cipio’r Bencampwriaeth

Doedd ymdrech ddewr Cymru yn Rhufain brynhawn Sadwrn ddim yn ddigon yn y diwedd wrth i’r Iwerddon godi tlws Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Yr Eidal 20-61 Cymru

Rhoddodd perfformiad gwych a buddugoliaeth swmpus Cymru yn erbyn yr Eidal gyfle gwirioneddol i Gymru wedi gêm gyntaf y prynhawn.

Roeddynt ar frig y tabl gyda phedair buddugoliaeth a gwahaniaeth pwyntiau o +53.

Yr Alban 10-40 Iwerddon

Roedd canlyniad Cymru’n golygu fod yn rhaid i’r Iwerddon guro’r Alban o 21 pwynt i godi i frig y tabl.

Fe wnaethant hynny’n gymharol gyfforddus ym Murrayfield gan olygu y byddai Lloegr angen trechu Ffrainc o 26 pwynt yn Twickenham yng ngêm olaf y diwrnod.

Lloegr 55-35 Ffrainc

Honno oedd gêm y diwrnod heb os, cyffro di ddiwedd a cheisiau gwych, ac er i Loegr groesi am saith cais i gyd roedd pump cais y Ffrancwyr yn golygu mai ugain pwynt yn unig oedd y bwlch rhwng y ddau dîm.

Mae’r Bencampwriaeth yn aros yn yr Ynys Werdd felly er gwaethaf ymdrech hynod ddewr gan Gymru a Lloegr.