Bangor 2-0 Airbus

Bangor aeth a hi yn y frwydr tua’r brig yn Nantporth nos Wener. Er bod yr ymwelwyr, Airbus, wedi mwynhau dechrau da i’r tymor roedd goliau Chris Simm a James Brewerton ar ddechrau’r ail hanner yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth i Fangor.

Dechreuodd Airbus y gêm fel prif sgoriwyr y gynghrair ac roedd digon o dystiolaeth o’u gallu ymosodol yn yr hanner cyntaf wrth i Steve Abbott, Ryan Wade, Ian Kearney a Chris Budrys i gyd ddod yn agos i’r ymwelwyr.

Ond di sgôr oedd hi ar yr egwyl ac fe enillodd Bangor y gêm gyda dwy gôl yn wyth munud agoriadol yr ail hanner. Peniodd prif sgoriwr y gynghrair, Simm, y Dinasyddion ar y blaen o groesiad dwfn Chris Roberts cyn i Brewerton rwydo o gic gornel Sion Edwards.

Bu bron i Simm ychwanegu trydedd wedi hynny ond roedd dwy yn ddigon i Fangor. Mae’r canlyniad yn eu codi i ail yn y tabl ond mae Airbus yn dechrau colli tir ar y tri uchaf yn y pedwerydd safle.

(Torf: 675)

.

Gap Cei Connah 2-1 Y Drenewydd

Ennill fu hanes Cei Connah yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy nos Wener er mai’r ymwelwyr o’r Drenewydd oedd ar y blaen ar yr egwyl.

Saith munud yn unig gymerodd hi i’r ymwelwyr fynd ar y blaen. Daeth Gareth Partridge o hyd i Luke Boundford yn y cwrt cosbi, gwnaeth yntau’r gweddill ac felly yr arhosodd hi tan hanner amser.

Ond y tîm cartref oedd y tîm gorau trwy gydol y gêm gyda’r chwaraewr ifanc, Rhys Healey, yn creu hafoc yn amddiffyn y Drenewydd.

Unionwyd y sgôr yn gynnar yn yr ail hanner pan lwyddodd Robert Jones droi ac ergydio i gornel y gôl, ac fe enillwyd y gêm ar yr awr gyda gôl gampus gan Healey.

Mae Cei Connah yn dychwelyd i’r chwech uchaf diolch i’r fuddugoliaeth tra mae’r Drenewydd yn llithro un lle i nawfed.

(Torf: 196)

.

Llanelli 0-6 Y Seintiau Newydd

Parhau mae problemau Llanelli yn dilyn crasfa gan y pencampwyr ar Stebonheath brynhawn Sadwrn. Sgoriodd y Seintiau dair ym mhob hanner wrth chwalu deg dyn y Cochion.

Dechreuodd yr hunllef wedi dim ond wyth munud pan sgoriodd Chris Jones ac ychwanegodd Alex Darlington ddwy arall i’w gwneud hi’n dair cyn hanner amser.

Sgoriodd Michael Wilde y bedwaredd hanner ffordd trwy’r ail hanner cyn i bethau fynd o ddrwg i waeth i’r tîm cartref gyda cherdyn coch i’r profiadol, Jason Bowen.

Sgoriodd Jones ac Wilde ill dau unwaith eto yn erbyn y deg dyn wrth iddi orffen yn grasfa go iawn.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r Seintiau i frig y tabl tra mae Llanelli yn disgyn i’r unfed safle ar ddeg.

(Torf: 156)

.

Port Talbot 2-4 Aberystwyth

Sgoriodd Jordan Follows ddwywaith yn y chwarter awr olaf i ennill y gêm i Aberystwyth yn erbyn Port Talbot yn Stadiwm GenQuip brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd David Brooks y tîm cartref ar y blaen wedi dim ond chwe munud ar ôl i arbediad Mike Lewis o ergyd Danny Thomas ddisgyn i’w lwybr.

Felly yr arhosodd hi tan yr egwyl ond roedd Aber yn gyfartal yn gynnar yn yr ail gyfnod diolch i ergyd gywir Matty Collins.

Aeth y Gŵyr Dur yn ôl ar y blaen toc cyn yr awr pan beniodd Jeff White groesiad Brooks i gefn y rhwyd ond unionodd Aber o fewn pum munud gyda pheniad Glyndwr Hughes o gic rydd Collins.

Tarodd Follows y postyn yn fuan wedyn cyn ennill y gêm i’r ymwelwyr gyda dwy gôl hwyr, y naill wedi 77 munud a’r llall funud o’r diwedd.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi Aberystwyth allan o safleoedd y gwymp ac i’r degfed safle tra mae Port Talbot yn disgyn o’r hanner uchaf i seithfed yn y tabl.

(Torf: 184)

.

Caerfyrddin 2-2 Prestatyn

Cafwyd digon o ddrama yng ngêm fyw Sgorio ar Barc Waun Dew brynhawn Sadwrn wrth iddi orffen yn gyfartal rhwng Caerfyrddin a Phrestatyn.

Bu bron i Gaerfyrddin ennill er iddynt chwarae’r mwyafrif o’r gêm gyda deg dyn ond cipiodd Michael Parker bwynt hwyr i’r ymwelwyr gyda chic o’r smotyn.

(Torf: 344)

.

Bala 3-2 Lido Afan

Sgoriodd Mark Connolly yn hwyr yn y gêm ar Faes Tegid brynhawn Sul i sicrhau buddugoliaeth i’r Bala yn erbyn Lido Afan.

Dwy yr un oedd hi yn dilyn hanner cyntaf llawn cyffro. Rhoddodd Stuart Jones y tîm cartref ar y blaen cyn i Chris Hartland unioni i Lido.

Adferodd Connolly fantais y Bala hanner ffordd trwy’r hanner ond unionodd Lido drachefn gyda gôl Lee Hartshorn funud cyn yr egwyl.

Dim ond un gôl a gafwyd yn yr ail hanner a daeth honno gydag ychydig dros ddeg munud i fynd, ail Connolly o’r gêm yn selio’r fuddugoliaeth i’r Bala.

Mae’r canlyniad yn codi’r Bala i’r pumed safle ond aros ar waelod y tabl y mae Lido Afan ac maent bellach wyth pwynt y tu ôl i’r gweddill.

(Torf: 214)