Pablo Hernandez
Mae un o sêr tîm Ewrop yng Nghwpan Ryder eleni, Sergio Garcia, wedi bod ar ymweliad a chlwb pêl-droed Abertawe.

Cyrhaeddodd y Sbaenwr Abertawe ddydd Llun, ar ôl teithio’n syth o Chicago ar ôl dathlu buddugoliaeth ei dîm yn erbyn America. Mae Sergio Garcia yn frawd i gariad ymosodwr Abertawe, Pablo Hernandez.

Bu’n gwylio’r Elyrch yn ymarfer yn Llandarsi.

Mae disgwyl iddo ddychwelyd i Abertawe dros y penwythnos i wylio’r tîm yn herio Reading ddydd Sadwrn.

Cafodd ei gyflwyno i chwaraewyr Abertawe, a chawson nhw gyfle i gael tynnu eu llun gyda’r seren.

Cefnogwr Abertawe

Dywedodd Sergio Garcia: “Fe ddaethon ni’n syth o Gwpan Ryder i Abertawe. Mae Pablo yn gariad i’m chwaer felly des i gyda fy rhieni i’w gweld nhw.

“Roedden ni am weld y lle rywfaint a gweld fy nai bach hefyd.

“Hwn yw fy nhro cyntaf yn Abertawe, ond rwy’n ffan mawr o bêl-droed ac yn amlwg, rwy’n ffan Abertawe nawr gan fod Pablo yn chwarae yma.

“Rwy’n dilyn cynghrair Sbaen yn fwy, ond rwy’n gwylio ychydig o bêl-droed Lloegr.

“Fe welais i Abertawe’n chwarae yn erbyn Everton rai wythnosau yn ôl – ro’n i yn Atlanta ond ro’n i wedi gallu gwylio’r gêm.

“Mae gen i bethau i’w gwneud yn y Swistir a’r Almaen yr wythnos hon, ond rwy’n gobeithio hedfan yn ôl ar fore Sadwrn i wylio’r gêm yn erbyn Reading.”