Neville Powell
Bydd Bangor yn herio Zimbru Chisinau yng nghystadleuaeth Cwpan Europa yn Stadiwm Chisinau heno.

Cafodd rheolwr Zimbru Chisinau ei ddiswyddo ar ôl y gêm gyfartal yn erbyn Bangor yng nghymal cyntaf yng Nghwpan Europa.

Cred Neville Powell, rheolwr Bangor, y gall Bangor hawlio buddugoliaeth heno.

‘‘Gallem fod yn eu chwarae ar yr adeg iawn, gan fod yna aflonyddwch yn y clwb, rwy’n siŵr bod eu hyder yn eithaf isel gyda’r digwyddiadau diweddar,’’ meddai Powell.

‘‘Gallwn bendant sgorio o leiaf gôl, ac os bydd popeth yn mynd o’n plaid, byddwn yn gallu camu i’r rownd nesaf,’’ ychwanegodd Powell.