Dutch Ray
Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru yn cyfarfod gyda Raymond Verheijen heddiw i drafod ei ddyfodol ac i weld os yw am barhau i fod yn rhan o’r tîm hyfforddi.

‘‘Rwyf am weld beth yw’r sefyllfa gydag ef, ac rwy’n gobeithio y bydd yn gyfarfod cynhyrchiol,’’ meddai Chris Coleman.

Mae Verheijen yn gymeriad poblogiadd ymysg y chwaraewyr, ac roedd eisiau bod yn gyfrifol am y tîm cenedlaethol gydag Osian Roberts cyn i Coleman cael ei benodi’n olynydd i Garry Speed.

Mae nifer o chwaraewyr Cymru gan gynnwys Gareth Bale a’r capten Aaron Ramsey wedi mynegi eu dymuniadau yn gyhoeddus i geisio cael Verheijen i barhau yn ei swydd.

Mae rheolwr newydd Cymru yn barod wedi penodi Kit Symons fel rhan o’i staff.  Er bod Osian Roberts am aros fel rhan o dîm Coleman mae dyfodol Verheijen yn ansicr.

Bydd Roberts a Verheijen yn gyfrifol am gêm gyfeillgar nesaf rhyngwladol Cymru er cof am Gary Speed yn erbyn Costa Rica a gynhelir yng Nghaerdydd ddiwedd y mis.