Mae Casnewydd drwodd i rownd gyntaf y Cwpan FA wedi iddynt drechu Braintree mewn gêm ragbrofol lawn goliau ym Mharc Sbytu heddiw.

Er bod Braintree dri safle ar ddeg yn uwch na Chasnewydd yn Uwchgynghrair y Blue Square y tîm o Gymru fydd yn symud ymlaen i chwarae yng Nghwpan Lloegr diolch i gôl ffodus Paul Rodgers ddau funud cyn diwedd y gêm.

Roedd Casnewydd ar ei hôl hi’n fuan yn y gêm ar ôl i Ben Wright rwydo i’r ymwelwyr, ond tarodd tîm Justin Edinburgh yn ôl gyda goliau gan Sam Foley a Craig McAllister.

Unionodd Andy Yiadom y sgôr i Braintree cyn i Nat Jarvis roi Casnewydd yn ôl ar y blaen. Ond unionodd Braintree drachefn diolch i gôl Kenny Davies.

3-3 oedd hi felly wrth i’r cloc agosau at y 90 ond yna gyda dim ond dau funud ar ôl aeth croesiad Rodgers yn syth i gefn y rhwyd gan ddwyn y fuddugoliaeth i Gasnewydd.

Efallai y byddai rhai’n dadlau fod gan Justin Edinburgh ddigon o waith i’w wneud yn cadw Casnewydd yn y Gyngres y tymor hwn ond wedi dweud hynny, mae gêm fawr yn y Cwpan FA yn hwb i unrhyw dîm. Mae yna glybiau mawr fel Sheffield United a Sheffield Wednesday yn yr het ar gyfer y rownd nesaf a dichon mai gobeithio am gêm oddi cartref yn erbyn tîm felly y bydd Casnewydd yn awr.