Yeovil 3–0 Wrecsam                                                                          

Mae trafferthion Wrecsam tua gwaelodion Cynghrair Genedlaethol Lloegr yn parhau wedi iddynt golli yn erbyn Yeovil ar Huish Park brynhawn Sadwrn.

Rhwydodd y tîm cartref dair gôl mewn buddugoliaeth gymharol gyfforddus.

Aeth Yeovil ar y blaen dri munud cyn yr egwyl gydag un o’r goliau rhyfeddaf. Roedd gôl-geidwad Wrecsam, Rob Lainton, yn meddwl bod Courtney Duffus wedi amharu arno wrth iddo geisio cicio’r bêl o’i ddwylo ond chwarae ymlaen a wnaeth y dyfarnwr gan ganiatáu i Duffus roi’r bêl yn y rhwyd wag!

Doedd dim yn rhyfedd am ail gôl y tîm cartref ddeg munud wedi’r egwyl ond roedd hi’n chwip o ergyd, cic rydd Luke Wilkinson o dri deg llath yn canfod y gornel uchaf.

Ychwanegodd Albi Skendi’r drydedd yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Mae’r canlyniad yn gadael y Dreigiau yn yr ail safle ar bymtheg yn y tabl, ddau bwynt yn unig yn glir o safleoedd y gwymp gyda deg gêm yn weddill.

.

Yeovil

Tîm: O’Brien (Nelson 22’), Hutton, Collins, Skendi, Dickinson, Wilkinson, Lee (Cooper 89’), Worthington, Smith, Duffus, Richards (Dagnall 86’)

Goliau: Duffus 42’, Wilkinson 55’, Skendi

Cerdyn Melyn: Duffus 61’

.

Wrecsam

Tîm: Lainton, Pearson (Barker 79’), Lawlor, Kennedy, Ponticelli, Young, Garratt, Thompson, Harris, Jarvis (Oswell 46’), Keillor-Dunn

.

Torf: 3,040