Caerdydd 0–1 Bristol City
Colli fu hanes Caerdydd yn y gêm ddarbi yn erbyn Bristol City yn y Bencampwriaeth amser cinio ddydd Sul.
Josh Brownhill a sgoriodd unig gôl y gêm i’r ymwelwyr yn Stadiwm y Ddinas, ergyd wych hanner ffordd trwy’r ail hanner.
Caerdydd a ddaeth agosaf at agor y sgorio mewn hanner cyntaf di sgôr ond tarodd cynnig gwych Junior Hoilett o bum llath ar hugain yn erbyn y trawst.
Tarodd yr Adar Gleision y pren wedi’r egwyl hefyd wrth i Leanrdo Bacuna geisio’i lwc o bellter ar yr awr.
Caerdydd a oedd y tîm gorau erbyn hynny ond yr ymwelwyr o dros Bont Hafren a aeth ar y blaen hanner ffordd trwy’r ail hanner, a hynny mewn steil. Cymerodd Brownhill un cyffyrddiad i osod ei hun cyn taro ergyd wych i’r gornel uchaf o bum llath ar hugain gyda’i ail.
Cafodd Caerdydd eu hatal gan y trawst am y trydydd tro wedi hynny, peniad Aden Flint o gic gornel.
Roedd y tîm cartref yn haeddu pwynt o leiaf, ond nid felly y bu, wrth i amddiffyn Bristol City, ac Ashley Williams yn ei ganol, ddal eu gafael ar lechen lân i sicrhau’r fuddugoliaeth.
Mae’r golled yn cadw tîm Neil Warnock yn bedwerydd ar ddeg yn nhabl y Bencampwriaeth.
.
Caerdydd
Tîm: Etheridge, Peltier, Nelson, Flint, Bennett, Bacuna, Pack, Mendez-Laing, Tomlin (Whyte 75’), Hoilett (Paterson 89’), Bogle (Madine 83’)
Cerdyn Melyn: Pack 19’
.
Bristol City
Tîm: Bentley, Kalas, Williams, Baker, Lopes Pereira (Moore 86’), Brownhill, Nagy, O’Dowda, Rowe, Watkins (Palmer 63’), Weimann
Gôl: Brownhill 67’
Cardiau Melyn: Nagy 27’, Rowe 53’
.
Torf: 23,846