Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi canmol Andre Ayew ar ôl i’r ymosodwr sgorio’i ddwy gôl gyntaf i’r Elyrch ers mis Mai 2016.
Fe ddaeth e oddi ar y fainc neithiwr (nos Fawrth, Awst 13), wrth i’r Elyrch guro Northampton o 3-1 i gyrraedd ail rownd Cwpan Carabao, lle byddan nhw’n herio Caergrawnt.
Aeth yr ymwelwyr â Stadiwm Liberty ar y blaen drwy Matt Warburton, ond fe wnaeth yr eilydd o Ghana wyrdroi’r gêm i’r Elyrch.
Fe wnaeth e unioni’r sgôr gyda pheniad ar ôl 79 munud, ac ar ôl i George Byers roi’r Elyrch ar y blaen gydag ergyd isel i gornel y rhwyd, sgoriodd Andre Ayew drydedd gôl ei dîm i selio’r fuddugoliaeth ddwy funud cyn diwedd y gêm.
Fe ddaeth ei goliau ar ôl absenoldeb o 15 mis o’r Liberty.
“Roedd e’n dda”
“Cafodd Andre 30 munud, dwy gôl, roedd e wedi’i ysgogi ac fe wnaeth e weithio’n galed. Roedd e’n dda,” meddai Steve Cooper.
“Dyna’n union ry’n ni’n gwybod y gall e ei wneud. Mae e wedi dod yn ei ôl i’r clwb ar ôl toriad rhyngwladol mewn cyflwr da iawn ac mae e wedi’i ysgogi wrth ymarfer.
“Rhoi’r nifer iawn o funudau iddo fe oedd yn bwysig heno i’w gael e’n ôl i’r lefelau ffitrwydd i gael chwarae yn y gynghrair.
“Roedd yn noson bositif mewn sawl ffordd.”