Mae Neil Warnock, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, wedi canmol Isaac Vassell, ymosodwr newydd y clwb, ar ôl iddo fe sgorio’r gôl fuddugol yn erbyn Luton ddoe (dydd Sadwrn, Awst 10).
Fe beniodd e’r bêl i’r rhwyd yn dilyn croesiad gan Junior Hoilett i’w gwneud hi’n 2-1 yn y pen draw, ac yntau wedi ymuno â’r clwb o Birmingham ar ddiwrnod ola’r ffenest drosglwyddo.
Aeth yr Adar Gleision ar y blaen gyda gôl gan Aden Flint, wrth iddo rwydo oddi ar foli yn dilyn cic rydd gan Josh Murphy ar ôl 55 munud.
Roedd y ddau dîm yn gyfartal pan sgoriodd Matty Pearson i’r ymwelwyr yng nghornel waelod y gôl.
Isaac Vassell yn serennu
“Mae yna droeon trwstan yn y ffenest [drosglwyddo] ac mae angen i chi fanteisio os gallwch chi,” meddai Neil Warnock.
“Nid dim ond gôl sgoriwr goliau oedd hi, fe wnaeth e redeg 50 llathen i gau rhywun i lawr ac fe ledodd hynny i’r dorf a’r chwaraewyr eraill.
“Fe wnes i ei wylio fe ar noson oer yn Truro pan o’n i allan o waith am ychydig wythnosau, ac fe wnaeth e bopeth yn iawn y noson honno.
“Fe chwaraeodd e yn y blaen ac ar y dde ac yn y twll, ac fe wnaeth e redeg a rhedeg a rhedeg.
“Dw i’n teimlo bod ganddo fe rywbeth arbennig.”