Mae Gareth Bale wedi cael ei adael allan o garfan Real Madrid unwaith eto, wrth iddyn nhw baratoi i herio RB Salzburg mewn gêm gyfeillgar.

Wnaeth e ddim teithio i’r Almaen yr wythnos ddiwethaf ar ôl i’r trafodaethau i’w drosglwyddo i Jiangsu Suning yn Tsieina ddirwyn i ben yn aflwyddiannus.

Mae’n debyg fod y Cymro’n gandryll ynghylch y ffordd mae’n cael ei drin gan ei reolwr Zinedine Zidane a llywydd y clwb, Florentino Perez.

Fe fu cysgod dros ei ddyfodol gyda’r clwb fyth ers i Zinedine Zidane gael ei ail-benodi’n rheolwr ym mis Mawrth, a’r ddau heb dynnu ymlaen rhwng 2016 a 2018, pan oedd y Ffrancwr wrth y llyw am y tro cyntaf.

Fis diwethaf, dywedodd asiant Gareth Bale nad yw’r ddau yn tynnu ymlaen, ac nad oes “perthynas” rhyngddyn nhw bellach.

Ond mae ganddo fe dair blynedd yn weddill o’i gytundeb, ar ôl symud o Spurs am £85m yn 2013, oedd yn record byd ar y pryd.

Mae’n annhebygol y bydd yn dychwelyd i Uwch Gynghrair Lloegr, wrth i’r ffenest drosglwyddo gau am 5 o’r gloch nos yfory (nos Iau, Awst 8).

Ond mae ganddo tan Fedi 2 i adael y clwb cyn i’r ffenest Ewropeaidd gau.