Caerdydd 0–3 Tottenham Hotspur                                              

Ildiodd Caerdydd dair gôl yn yr hanner awr cyntaf yn Stadiwm y Ddinas nos Fawrth wrth golli gartref yn erbyn Tottenham yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi dim ond tri munud, amddiffynnwyr canol Caerydd yn gwneud llanast llwyr o groesiad Kieran Trippier a’r bêl yn gwyro i gefn y rhwyd oddi ar Harry Kane.

Dyblwyd y fantais yn fuan wedyn wrth i gyfuniad o chwarae slic gan Spurs ac amddiffyn gwael gan Gaerdydd arwain at gôl i Eriksen gydag ergyd isel o ochr y cwrt cosbi, dwy i ddim wedi deuddeg munud.

Ac roedd hi’n dair cyn yr hanner awr, Son Heung-Min yn gorffen yn daclus wedi gwaith creu Moussa Sissoko a Kane, ond rhagor o amddiffyn amheus gan yr Adar Gleision.

Roedd Caerdydd yn well ar ddechrau’r ail hanner heb os ond ar wahân i beniad Junior Hoilett a gafodd ei arbed yn gymharol gyfforddus gan Hugo Lloris, prin a oedd y bygythiad ar gôl Tottenham.

Hanner cyfleoedd yn unig a welwyd yn y pen arall hefyd ond bu rhaid i Neil Etheridge fod yn effro i atal Kane un-ar-un yn hwyr yn y gêm.

Mae tîm Neil Warnock yn aros yn unfed ar bymtheg yn y tabl er gwaethaf y golled.

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Ecuele Manga, Bamba, Morrison, Cunningham, Gunnarsson, Reid (Mendez-Laing 72’), Camarasa (Ralls 59’), Arter, Murphy (Hoilett 45’), Paterson

Cerdyn Melyn: Bamba 53’

.

Tottenham

Tîm: Lloris, Trippier, Sanchez, Alderweireld, Rose, Sissoko, Winks, Son Heung-Min (Skipp 76’), Alli (Llorente 86’), Eriksen, Kane

Goliau: Kane 3’, Eriksen 12’, Son Heung-Min 26’

.

Torf: 32,485