Stevenage 1–0 Casnewydd
Colli yn erbyn deg dyn a fu hanes Casnewydd wrth iddynt deithio i Broadhall Way i wynebu Stevenage yn yr Ail Adran ar Ddydd Calan.
Cyn chwaraewr Caerdydd, Alex Revell, a sgoriodd unig gôl y gêm bum munud o ddiwedd y naw deg.
Chwaraeodd Stevenage dros hanner y gêm gyda deg dyn yn dilyn cerdyn coch i Kurtis Guthrie am dacl wael ar Fraser Franks tua diwedd yr hanner cyntaf.
Mathodd Casnewydd a manteisio ar eu dyn o fantais a chawsant eu cosbi yn y munudau olaf wrth i’r eilydd, Revell, gipio’r pwyntiau i gyd i’r tîm cartref gyda pheniad o groesiad Michael Timlin.
Mae’r canlyniad yn codi Stevenage dros Gasnewydd yn y tabl wrth i’r Alltudion lithro i’r deuddegfed safle.
.
Stevenage
Tîm: Farman, Wildin, Cuthbert, Nugent, Hunt (Timlin 45+1’), Byrom (Henry 77’), Iontton, Seddon, Kennedy (Revell 59’), Guthrie, Newton
Gôl: Revell 85’
Cerdyn Melyn: Timlin 78’
Cerdyn Coch: Guthrie 39’
.
Casnewydd
Tîm: Day, Franks (Marsh-Brown 84’), Bennett (Sheehan 89’), Demetriou, Hornby-Forbes (Harris 62’), Willmott, O’Brien, Bakinson, Butler, Amond, Matt
Cardiau Melyn: Hornby-Forbes 60’, Franks 79’, Bennett 88’
.
Torf: 2,299