Mae’r timau’n dechrau sefydlu eu hunain yn Uwch Gynghrair Cymru, ond pwy sydd wedi sefydlu ei hunain fel sêr yr wythnos yn llygaid criw Sgorio yr wythnos hon?

Golwr

Lee Kendall (Castell-nedd) – unai’n arbed cynigion Lee Hunt neu’n dechrau gwrthymosod wrth ddosbarthu’r bêl, roedd popeth am berfformiad Kendall yn gampus wrth i Gastell-nedd chwalu’r Bala dros y Sul

Amddiffynwyr

Chris Davies a Martin Beattie (Prestatyn) – roedd cefnwyr chwith a dde Prestatyn ar eu gorau wrth guro Aberystwyth bnawn Sul, gyda Davies yn creu’r gôl agoriadol i’w reolwr, Neil Gibson, a Beattie yn gymorth i Ross Stephens ar yr asgell chwith. Fe fydd rhaid i’r cefnwyr fod ar eu gorau eto’r Sadwrn nesaf pan fydd Prestatyn yn wynebu eu her fwyaf y tymor hwn wrth groesawu Llanelli’n fyw ar Sgorio

Stuart Jones (Llanelli) – perfformiad capten go iawn gan Jones. Aeth Llanelli i frig y tabl dros dro ar ôl curo Port Talbot nos Wener ac roedd Jones yn allweddol wrth i Lanelli gadw llechen lân am ddim ond yr eilwaith y tymor hwn

Danny Grannon (Airbus UK) – efallai nid yw Grannon yn gapten ar Airbus ond fe chwaraeodd fel arweinydd ar y cae ac ennill popeth yn awyr yn erbyn y Seintiau Newydd. Er i Chris Seargeant rwydo’n hwyr i gipio’r pwyntiau oddi ar Airbus yn fyw ar Sgorio bnawn Sadwrn, fe enwyd Grannon yn Seren y Gêm gan Malcolm Allen

Canol cae

Chris Venables (Llanelli) – un o’r chwaraewyr mwyaf cyflawn yn Uwch Gynghrair Cymru ac fe gafwyd perfformiad cyflawn ganddo nos Wener. Sgoriodd y gôl agoriadol i suddo Port Talbot ac roedd o fewn trwch y postyn i sgorio cic rydd wych hefyd

Neil Gibson (Prestatyn) – fe allai Gibson wedi ennill gwobr Rheolwr yr Wythnos yn ogystal wrth i’w dîm sy’n gymysgedd o hogiau ifanc lleol ac ambell i hen ben profiadol serennu ar Goedlan y Parc, Aberystwyth, bnawn Sul. Yn ogystal â hynny, fe reolodd Gibson ganol cae drwy’r prynhawn a sgoriodd ei drydedd gôl yn barod y tymor hwn. Bydd rhaid i Gibson ddefnyddio’i holl brofiad fel rheolwr a chwaraewr yr wythnos nesaf yn erbyn Llanelli’n fyw ar Sgorio

Sam Gwynne (Castell-nedd) – mae Gwynne wedi dechrau dwy gêm i Gastell-nedd ac wedi cael ei ddewis yn Nhîm yr Wythnos Sgorio ddwywaith! Roedd cyn-chwaraewr Henffordd yr un mor daclus ag effeithiol yng nghanol cae â’r wythnos diwethaf ond fe gyflwynodd fygythiad ymosodol hefyd gyda sawl ergyd peryglus o bellter

Ymosod

Alan Bull (Bangor) – fe sgoriodd Bull ei bedwaredd a phumed gôl y tymor hwn yn erbyn Y Drenewydd nos Wener. Fe allai prif sgoriwr y Pencampwyr y tymor diwethaf fod wedi sgorio mwy, ag eithrio campau’r golwr. Fe ddylai gweddill timau’r gynghrair fod yn barod – mae’r tarw’n dechrau taro

Luke Bowen (Castell-nedd) – sgoriodd Bowen ei ail a thrydedd gôl mewn dwy gêm yn erbyn y Bala. Mae Bowen wedi chwarae ar yr asgell ac fel blaenwr y tymor hwn ond lle bynnag mae Bowen yn chwarae, mae’n sgorio ac roedd hynny’n wir eto’r penwythnos hwn

Lee Trundle (Castell-nedd) – yn olaf ond yn flaenaf yr wythnos hon mae’r ‘magic daps’. Fe allai Tîm yr Wythnos wedi bod yn un dyn yr wythnos hon – bu bron i Lee Trundle ennill y gêm ar ei  ben ei hun ddydd Sul. Roedd Trundle ar ei orau – yn creu, yn sgorio ac yn profi eto ei fod yn chwaraewr o safon gwirioneddol

Cofiwch y bydd modd gweld perfformiadau’r chwaraewyr uchod yn fideos uchafbwyntiau Sgorio o holl gemau’r penwythnos yn ein Crynodeb Uwch Gynghrair Cymru yr wythnos hon.