Gallai Harry Wilson achosi problemau i Abertawe wrth iddyn nhw deithio i Derby yn y Bencampwriaeth ddydd Sadwrn, yn ôl rheolwr yr Elyrch, Graham Potter.

Sgoriodd y Cymro 21 oed chwip o gic rydd yn erbyn Stoke nos Fercher, wrth i’w dîm golli o 2-1. Ac mae hynny’n dilyn ciciau tebyg yn erbyn Man U i’w glwb, ac yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yng nghrys Cymru.

Ac roedd amddiffyn yn erbyn chwarae gosod yn un o wendidau’r Elyrch, wrth iddyn nhw golli o 2-1 yn erbyn West Brom yn Stadiwm Liberty.

Mae pum pwynt yn gwahanu Derby, sy’n seithfed, ac Abertawe sy’n unfed ar ddeg yn y tabl, felly byddai triphwynt ddydd Sadwrn yn symud yr Elyrch yn nes at y safleoedd ail gyfle ar ôl ugain gêm.

“Rhaid i ni ofalu a lleihau ei gyfleoedd i gael ciciau rhydd peryglus mewn mannau peryglus, a rhaid i ni eu hamddiffyn nhw gorau gallwn ni,” meddai Graham Potter.

“Os oes ganddyn nhw’r gallu, rhaid i chi wneud eich gorau i gyfyngu hynny. Mae e’n perfformio ar lefel uchel, felly rhaid i ni leihau hynny ac amddiffyn pan ddaw’r cyfle.”

Chwarae gosod

Yn dilyn ymadawiad Gylfi Sigurdsson pan gwympodd yr Elyrch o’r Uwch Gynghrair, does ganddyn nhw neb tebyg i Harry Wilson bellach i fod yn fygythiad o flaen y gôl o’r chwarae gosod.

Ond mae Graham Potter hefyd yn sylweddoli pa mor anodd fydd denu chwaraewyr i’r clwb pan fydd y ffenest drosglwyddo’n agor ym mis Ionawr – yn enwedig chwaraewyr all gynnig bygythiad o flaen y gôl.

“Rhaid i chi gadw meddwl agored o ran cryfhau. R’yn ni am gryfhau’r grŵp. Mae’n bosib fydd angen tocio rywfaint ar y garfan cyn dod â chwaraewyr i mewn.”

Gallai hynny, yn ôl pob tebyg, olygu chwilio am gyfleoedd i anfon Nathan Dyer, Wayne Routledge a Luciano Narsingh allan ar fenthyg.

“R’yn ni’n gwybod nad yw’r ffenest drosglwyddo ym mis Ionawr yn un syml. Mae clybiau am gadw eu gafael ar chwaraewyr ac fel prif hyfforddwr, dw i’n hoffi canolbwyntio ar yr hyn sydd gyda ni eisoes.

“Mae’n adeg gyffrous o ran ein datblygiad, a dyna fyddwn ni’n canolbwyntio arno. Ond fe wnawn ni ystyried popeth a gwneud yr hyn sydd orau i Abertawe.

“Mae’r sgyrsiau’n digwydd o hyd  gall pethau newid a gall amgylchiadau newid. Mae gyda ni syniadau, ry’n ni’n gwybod beth yw ein blaenoriaethau, ac fe wnawn ni gadw’r rheiny’n breifat a gweithio tuag at ddatblygu’r chwaraewyr sydd yma.”