Mae Heddlu Gogledd Cymru yn annog cefnogwyr sydd a fydd yn bresennol yn y gêm bêl-droed rhwng Wrecsam a Chasnewydd dros y penwythnos, i “ymddwyn yn gyfrifol”.
Bydd y dref yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn herio’r Tranmere Rovers ar y Cae Ras nos Sadwrn yma (Rhagfyr 1), wrth i’r ddau dîm gystadlu am Gwpan FA Lloegr.
Yn ôl yr heddlu, mae swyddogion ar hyn o bryd yn cydweithio â chlybiau ac asiantaethau eraill ar ymgyrch i blismona’r gêm, gyda disgwyl y bydd torf dda yn bresennol yno.
‘Byddwch yn gall’
“Diogelwch y cyhoedd a chadw trefn yw ein prif flaenoriaeth,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.
“Dw i’n gofyn i’r rheiny sy’n mynychu i ymddwyn yn gyfrifol mewn ffordd gyfrifol ac i adael i eraill yn yr ardal fyw eu bywydau yn yr un modd.
“Bydd unrhyw un sy’n defnyddio gêm bêl-droed i ymddwyn mewn ffordd droseddol, hiliol neu wrthgymdeithasol yn cael eu trin fel troseddwyr.”