Embaras oedd canlyniad tîm pêl-droed Cymru neithiwr (nos Fawrth, Tachwedd 21), wrth iddyn nhw golli o 1-0 yn erbyn Albania yn ninas Elbasan.

Roedd y gêm gyfeillgar yn nodi blwyddyn yn y swydd i’r rheolwr Ryan Giggs.

Ar bapur, dylai’r gêm fod wedi bod yn un gymharol hawdd i Gymru, oedd 42 o safleoedd uwchlaw Albania yn rhestr ddetholion FIFA.

Dwy gôl yn unig oedd Albania wedi’u sgorio yn eu wyth gêm ddiwethaf, ac fe gawson nhw gweir o 4-0 yn erbyn yr Alban yr wythnos ddiwethaf.

Ond fe ildiodd tîm di-brofiad Cymru gic o’r smotyn ar ôl 58 munud, ac fe rwydodd Bekim Balaj.

Dyma’r pumed tro i Gymru golli mewn naw gêm dan arweiniad Ryan Giggs.

Chris Gunter

Fe ddylai’r noson fod wedi bod yn un i’w dathlu i gefnwr de Cymru, Chris Gunter wrth iddo dorri record capiau Neville Southall, wrth ymddangos yn gêm rhif 93 ei yrfa dros Gymru.

Fe aeth heibio’r 92 o gapiau gan y golwr Neville Southall.

Fe gafodd ei enwi’n gapten ar gyfer yr achlysur, a Chymru heb yr ymosodwr Gareth Bale, a ddaeth i’r cae yn ddiweddarach yn eilydd.

Hon hefyd oedd hanner canfed cap y chwaraewr canol cae Andy King; a gêm gynta’r triawd James Lawrence, Daniel James a’r eilydd Rabbi Matondo.