Rotherham 2–1 Abertawe                                                              

Sgoriodd Ryan Manning ddwy gic o’r smotyn hwyr wrth i Rotherham daro nôl i guro Abertawe yn Stadiwm New York yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.

Roedd hi’n ymddangos fod gôl Oliver McBurnie yn mynd ennill y gêm i’r ymwelwyr o Gymru cyn i’r tîm cartref gipio’r tri phwynt gyda dwy gôl yn y chwarter awr olaf.

Reodd Daniel James yn edrych yn dda i’r Elyrch unwaith eto a doedd fawr o syndod ei weld yn chwarae rhan yn y gôl agoriadol, yn creu i McBurnie

Gwastraffodd Leroy Fer a Jay Fulton gyfleodd i ddyblu mantais Abertawe yn yr ail hanner a bu’n rhaid iddynt dalu’n ddrud yn y munudau olaf.

Sgoriodd Manning ei gic o’r smotyn gyntaf ddeuddeg munud o’r diwedd yn dilyn trosedd Kristoffer Nordfeldt ar Jamie Proctor, a rhwydodd o ddeuddeg llath unwaith eto wyth munud yn ddiweddarach yn dilyn llawiad Leroy Fer.

Mae tîm Graham Potter yn llithro un lle i’r nawfed safle yn nhabl y Bencampwriaeth.

.

Rotherham

Tîm: Rodak, Vyner, Ajayi, Robertson, Mattock, Towell (Proctor 75’), Vaulks, Taylor (Newell 62’), Williams, Vassell (Manning 45’), Smith

Goliau: Manning [c.o.s.] 79’, [c.o.s.] 87’

Cardiau Melyn: Vaulks 22’, Smith 22’

.

Abertawe

Tîm: Nordfelt, Naughton (McKay 90’), van der Hoorn, Rodon, Grimes, Fulton (Baker-Richardson 90’), Fer, Roberts, Celina, James, McBurnie

Gôl: McBurnie 25’

Cardiau Melyn: Fer 22’, Celina 74’, McBurnie 86’, van der Hoorn 90’

.

Torf: 9,006